Meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth, Llun: Mudiad Meithrin
Mae meithrinfa yn Aberystwyth wedi cau am dros wythnos yn dilyn ‘digwyddiad’ yno ddydd Mawrth.
Fe bostiodd meithrinfa Camau Bach, ym mhencadlys y Mudiad Meithrin, neges i rieni ar Facebook nos Fawrth yn ei hysbysu am y penderfyniad i gau ac yn ymddiheuro “am unrhyw anghyfleustra.”
Yn ôl adroddiadau’r BBC, cafodd plentyn ei adael mewn bws mini am dros ddwy awr, heb yn wybod i staff, ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn.
Yn ôl y neges Facebook, fe fydd Camau Bach yn ail-agor ddydd Iau, 28 Gorffennaf, yn dilyn gwaith “cynnal a chadw a hyfforddi staff.”
Mae rhieni wedi ymateb i neges y feithrinfa yn gofyn beth oedd y ‘digwyddiad’, gydag un yn dweud ei bod yn teimlo’n “anghyfforddus iawn” yn gadael ei merch yn eu gofal pan fo “rhywbeth difrifol yn amlwg wedi digwydd.”
Fe ddywedodd Meithrinfa Camau Bach ei bod hefyd yn ffonio rhieni i roi gwybod iddyn nhw am y trefniadau i gau.
Camau Bach yw’r unig feithrinfa cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth ac mae’n darparu gofal i blant rhwng chwe wythnos oed ac oed ysgol. Gall ofalu am hyd at 105 o blant.