Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw dynes ifanc y cafwyd hyd i’w chorff mewn tŷ ym Mhenygroes, Caernarfon.

Roedd Emma Louise Baum yn 22 oed ac yn fam i fachgen 2 oed.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y digwyddiad yn Ffordd Llwyndu, Penygroes ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Cafwyd hyd i gorff y fam ifanc mewn eiddo yn Heol Llwyndu am tua 10:45 bore dydd Llun, 18 Gorffennaf ac mae’r heddlu’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal heddiw.

Apelio am dystion

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am dystion ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un  a allai fod wedi clywed aflonyddwch yn Ffordd Llwyndu rhwng 2yb a 5yb bore dydd Llun.

Dywed yr heddlu eu bod eisoes wedi cael ymateb cadarnhaol gan y gymuned gyda nifer o adroddiadau wedi’u derbyn o ferch yn sgrechian yng nghyffiniau’r stryd am tua 4yb.

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi cael galwad am aflonyddwch posibl ychydig ar ôl 4yb.  Cafodd swyddogion eu hanfon i’r lleoliad ond ni ddaethon nhw o hyd i unrhyw beth amheus.  Mae’r mater wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Meddai Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies:  “Mae tîm yr ymchwiliad o’r farn y bu farw’r ddynes yn ystod oriau mân y bore ddoe.

“Rydym yn parhau i apelio am dystion, yn arbennig unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn ardal Ffordd Llwyndu yn oriau mân y bore.  Fel rhan o’n hymchwiliad rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â system TCC (teledu cylch cyfyng) preifat i gysylltu â’r ystafell digwyddiad difrifol ar 101 a dyfynnu cyfeirnod U105426.”

Mae’r ymchwiliad yn parhau ac mae swyddogion ychwanegol ar batrol yn y pentref.

‘Cydymdeimlo’

Mae Aelod Seneddol yr ardal, Hywel Williams, wedi trydar i ddweud ei fod yn cydymdeimlo gyda’i theulu a’i ffrindiau a’i fod yn meddwl am y gymuned ym Mhenygroes.

“Rwy’n cydymdeimlo â’i theulu â’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae fy meddyliau gyda chymuned Penygroes,” meddai’r AS dros Arfon.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar y safle gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod U105426.