Sean Buckley Llun: Heddlu De Cymru
Mae mam wedi cael ei charcharu am 20 mis yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o achosi creulondeb yn erbyn ei mab 17 mis oed.

Bu farw Finley Thomas ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben a thorri ei asennau yn ei gartref yn Nhonypandy.

Cafwyd Sean Buckley, 28, cariad ei fam, yn euog o’i lofruddio a chafodd ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mehefin. Bydd yn gorfod treulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.

Roedd Chloe Thomas, 25, o Donypandy wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi creulondeb i blentyn.

Clywodd y llys bod Chloe Thomas wedi rhoi “gofal canmoladwy” i’w mab yn ystod ei fisoedd cyntaf ond bod hynny wedi newid ar ôl iddi gwrdd â Sean Buckley.

Wrth ei dedfrydu i garchar am 20 mis, dywedodd y barnwr Ms Ustus Patterson: “Fe ddylech chi fod wedi bod yn gofalu am eich mab, nid cau eich llygaid.”

Roedd hi wedi gwadu cyhuddiad arall o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chafodd y cyhuddiad hwnnw ei ollwng.

‘Angen atebion’

Dywedodd Des Mannion, pennaeth yr elusen blant NSPCC Cymru ei fod yn gobeithio y byddai adolygiad manwl o’r achos yn rhoi “atebion” i’r drasiedi ac atal plant eraill rhag dioddef yn y dyfodol.

Meddai: “Fe fethodd Chloe Thomas i amddiffyn ei mab rhag y gamdriniaeth erchyll a ddioddefodd gan Sean Buckley – camdriniaeth a arweiniodd at ei lofruddiaeth greulon.

Ychwanegodd bod achosion o gamdriniaeth ac esgeuluso plant yn digwydd bod dydd “mewn gormod o gartrefi ar draws y wlad, gan niweidio dyfodol y plentyn. Mae gennym i gyd ddyletswydd i ofalu am eu lles.”