Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddau fws gael eu rhoi ar dan yn fwriadol mewn gorsaf fysiau ym Mhwllheli fore dydd Sadwrn.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan yr Heddlu a Gwasanaeth Tân y Gogledd ar ôl i fws dau lawr a bws un llawr gael eu difrodi mewn tân a gafodd ei gynnau cyn 2.30 y bore ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf yng ngarej Glandon ar ffordd Caernarfon, Pwllheli.

Dywedodd  yr Arolygydd  Dewi Jones : “Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a oedd gerllaw Garej Glandon rhwng 1.30  a 2.30yb yn ystod oriau man fore Sadwrn, neu eu bod wedi gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio PC Carwyn Tomos ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.