Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth amheus dynes ifanc y cafwyd hyd i’w chorff mewn eiddo ym Mhen-y-groes, ger Caernarfon y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r eiddo ar Ffordd Llwyndu yn y pentref tua 10:45 bore dydd Llun ar ol i gorff y ddynes leol gael ei ddarganfod.

Dywed yr heddlu bod ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae ymchwiliad ar y gweill. Mae’r heddlu’n paratoi i holi trigolion lleol yn yr ardal.

Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cymorth i deulu’r ddynes. Mae rhagor o blismyn ar ddyletswydd yn y pentref er mwyn lleddfu pryderon trigolion lleol, meddai’r heddlu.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn ac mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a allai helpu gyda’u hymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar y safle gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod U105426.