Theresa May a Carwyn Jones ar risiau'r Senedd Llun: Twitter Llywodraeth Cymru
Dywed Theresa May ei bod wedi cael trafodaethau “adeiladol iawn” gyda Phrif Weinidog Cymru yn ystod ei hymweliad cyntaf a Chymru ers dod yn Brif Weinidog.
Dywedodd Theresa May, a oedd wedi olynu David Cameron fel Prif Weinidog ddydd Mercher diwethaf, ei bod yn hanfodol cwrdd â Carwyn Jones yn fuan ar ôl iddi gael ei phenodi.
Cafodd ei chyfarch gan Carwyn Jones ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd bore ma cyn cynnal trafodaethau am oblygiadau Brexit a dyfodol ansicr gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
“Rwyf wedi cael cyfarfod adeiladol iawn gyda Phrif Weinidog Cymru ac rydym wedi bod yn trafod nifer o faterion – gan gynnwys y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Yr hyn rydw i am ei weld ydy’r cytundeb gorau posib i’r DU gyfan ac rydw i am i Lywodraeth Cymru fod yn gysylltiedig â’r trafodaethau – dyna pam rydw i yma.
“Fe fuon ni hefyd yn trafod Tata ac mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi rhoi pecyn cryf at ei gilydd. Ry’n ni am weld cynhyrchu dur yn parhau yma.”
Cyn ei hymweliad fe gyfaddefodd Carwyn Jones mai “ychydig iawn” roedd yn ei wybod am y Prif Weinidog newydd ond ei fod yn gobeithio y gallai Theresa May gynnig gwell setliad datganoli.
Mae e hefyd wedi galw arni i ddelio gydag effaith refferendwm yr UE “ar fyrder” oherwydd yr effaith y gallai gael ar yr economi a buddsoddiad yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns AS, a oedd yn rhan o’r trafodaethau, bod y cyfarfod wedi bod yn un positif a bod llawer ganddyn nhw yn gyffredin.
‘Positif’
Wedi’r cyfarfod, dywedodd Carwyn Jones: “Roedd y cyfarfod heddiw â’r Prif Weinidog Theresa May yn ddechrau adeiladol a phositif i’n berthynas weithio.
“Roedd yn gyfle defnyddiol i siarad yn agored â’r Prif Weinidog am y rôl lawn y bydd rhaid i Gymru gael ei chwarae yn y trafodaethau sydd i ddod ynglŷn â’r telerau i’r DU adael yr UE. Rwy’n galw unwaith yn rhagor ar Lywodraeth y DU i roi sicrwydd y bydd Cymru yn dal i dderbyn y £600 miliwn o gyllid cwbl hanfodol rydyn ni’n ei gael o’r UE ar hyn o bryd ar ôl i’r DU adael.
“Dw i am ganolbwyntio i ddechrau ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant dur Cymru ac mae’n dda iawn gweld bod Mrs May wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant. Rydyn ni wedi cytuno i barhau i weithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod ffatrïoedd Tata yn y DU yn aros ar agor a bod swyddi yng Nghymru yn cael eu diogelu.”
‘Setliad gwan’
Yn ôl Plaid Cymru roedd yn gadarnhaol bod y Prif Weinidog wedi ymweld â Chymru mor fuan ar ôl iddi ddechrau yn ei swydd.
Ond ychwanegodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: “Rydym wedi gweld yr Alban yn sicrhau llawer gwell cytundeb na Chymru gan San Steffan diolch i gryfder Llywodraeth yr Alban. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n ennill parch y Prif Weinidog newydd yn yr un modd – rhywbeth y mae wedi methu ei wneud hyd yma gan ein gadael gyda setliad gwan.”