E.coli (Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae dau berson wedi marw ar ôl cael y clefyd E.coli a allai fod yn gysylltiedig â bwyta dail letys cymysg.

Bu chwe achos o E. coli O157 yng Nghymru, 144 yn Lloegr, yn bennaf yn y de-orllewin, ac  un yn yr Alban.

Fe gadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth golwg360, nad oedd y ddau fu farw yn dod o Gymru, ond does dim manylion pellach am le oedd y marwolaethau.

Iechyd Cyhoeddus Lloegr sydd yn arwain yr ymchwiliad i’r achosion, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi.

Mae’r ymchwiliad yn ceisio darganfod ai dail letys sydd ar fai, o bosib dail berwr (rocket) wedi’u hallforio o’r Canoldir.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr ei fod wedi cynghori “nifer fechan” o werthwyr i beidio ag ychwanegu’r dail berwr i’w bagiau salad cymysg er mwyn bod yn ofalus.

Canllawiau golchi dwylo

Ac mae’r corff yng Nghymru wedi cyhoeddi datganiad yn pwysleisio “mor bwysig” yw hi i olchi unrhyw ddail letys neu lysiau amrwd yn iawn cyn eu bwyta.

“Rydym ni a’n partneriaid yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Lloegr gyda’i ymchwiliad,” meddai Christopher Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae’n bwysig iawn bod pobol yn sicrhau eu bod yn golchi unrhyw salad neu lysiau amrwd yn iawn cyn eu bwyta oni bai eu bod wedi cael eu paratoi o flaen llaw ac wedi’u labeli’n ‘barod i fwyta.’

“Gall y clefyd gael ei basio o berson i berson, felly mae’n bwysig y dylai unrhyw un sy’n sâl gadw hylendid personol i osgoi lledaenu’r haint.

“Dylai pobol olchi a sychu eu dwylo, yn enwedig os oes ganddynt ddolur rhydd, ar ôl gafael yn anifeiliaid a chyn paratoi neu fwyta bwyd.

“Dylai rieni oruchwylio plant ifanc wrth iddyn nhw olchi eu dwylo.”

Symptomau

Dywedodd hefyd y dylai unrhyw un sydd â symptomau E. coli O157 gysylltu â’i feddyg teulu yn syth a chadw draw o ysgol, y feithrinfa neu’r gwaith tan fod y symptomau wedi mynd.

Gall E. coli O157 achosi amryw o symptomau, gan gynnwys dolur rhydd ysgafn i waedlyd a phoen difrifol yn yr abdomen.

Daeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ymwybodol o bosibilrwydd o E. coli O157 yn ne Lloegr ar ddiwedd mis Mehefin.