Disgwyl i Owen Smith amlinellu ei gynlluniau ym Mhontypridd ddydd Sul
Bydd Owen Smith yn lansio’i ymgyrch i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Lafur ddydd Sul.

Roedd disgwyl iddo wneud cyhoeddiad ddydd Gwener, ond cafodd ei ohirio oherwydd y gyflafan yn Nice.

Bydd Aelod Seneddol Pontypridd ac Angela Eagle yn herio’r arweinydd presennol, Jeremy Corbyn am y swydd.

Mae disgwyl i Smith gyhoeddi ei fwriad i fuddsoddi £200 biliwn mewn prosiectau adeiladu er mwyn “ailadeiladu Prydain”.

Ac mae’n rhybuddio fod rhaid i Lafur fod yn “dîm go iawn”.

Mewn erthygl yn y Sunday Mirror, dywedodd Owen Smith ei fod yn “falch” o gael lansio’i ymgyrch yn ei etholaeth, ac mai’r “anrhydedd fwyaf y gellir ei dychmygu” fyddai cael arwain y blaid.

Ond fe rybuddiodd fod hwn yn “gyfnod pryderus” i Lafur ac “os nad ydyn ni’n cyd-dynnu, uno a dechrau ymddwyn fel tîm go iawn rydyn ni’n wynebu’r risg o ddadfeilio”.

Rhybuddiodd hefyd fod rhaid i’r blaid sefyll yn gadarn yn erbyn gweinidogion newydd y llywodraeth Geidwadol wrth iddyn nhw ddechrau ar y broses o baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fod y Ceidwadwyr yn barod i “geisio defnyddio Brexit fel esgus i dorri hawliau gweithwyr a gwthio am ragor o doriadau eto fyth”.

Dywedodd ei fod yn barod i wella systemau trafnidiaeth, gwella’r argyfwng tai a buddsoddi mewn pobol ifainc.

Ychwanegodd fod rhaid i Lafur gael arweinydd “sy’n gwneud pethau, ac nid dim ond yn siarad”.