Hanner canrif wedi buddugoliaeth hanesyddol i Blaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn 1966, mae asiant Gwynfor Evans yn yr is-etholiad hwnnw wedi bod yn cofio nôl i’r adeg y daeth yn aelod seneddol cynta’r blaid.

Bron hanner canrif i’r diwrnod wedi’r fuddugoliaeth, cafodd cofeb ei dadorchuddio yn sgwâr y dref i gofio’r fuddugoliaeth.

Roedd Plaid Cymru eisoes wedi colli un etholiad y flwyddyn honno ond yn dilyn marwolaeth Megan Lloyd George, a chyfnod ansicr i’r Blaid Lafur, roedd y rhod yn troi yn y dref.

Un o’r rheiny fu’n ymgyrchu’n brwd ar ran Gwynfor Evans a’r Blaid oedd ei asiant, Cyril Jones o Bumpsaint.

Fe fu gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers yn ei holi ar achlysur yr hanner canmlwyddiant.

Yn y digwyddiad hefyd roedd nifer o gynrychiolwyr o Blaid Cymru, gan gynnwys Leanne Wood, Simon Thomas, Jonathan Edwards, Rhodri Glyn Thomas, Adam Price, Dafydd Wigley a Dafydd Iwan.

Perfformiodd Dafydd Iwan yn ystod y dathliad, oedd yn cael ei arwain gan un arall o gyn-asiantiaid Gwynfor Evans, Peter Hughes Griffiths.


Cynhadledd Brexit

Cafodd ei gynnal ar yr un diwrnod â chynhadledd arbennig i drafod goblygiadau’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar drothwy’r gynhadledd, dywedodd Leanne Wood ei bod yn gyfle i aelodau gael dweud eu dweud am y ffordd ymlaen i’r blaid yn y cyfnod ôl-Brexit.

Dywedodd fod yna gyfle bellach i ddangos i’r rheiny oedd wedi pleidleisio i adael mai San Steffan, ac nid Brwsel, sy’n dal Cymru’n ôl.