Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio i Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin, yn yr union fan lle traddododd ei araith wedi’r fuddugoliaeth hanner canrif yn ôl.
Ar ôl colli’r etholiad blaenorol ychydig fisoedd ynghynt, enillodd Gwynfor Evans y sedd yn 1966 gyda mwyafrif o dros 2,000 o bleidleisiau.
Cafodd yr is-etholiad ei gynnal am fod Megan Lloyd-George, yr Aelod Seneddol Llafur, wedi marw.
Er bod Llafur, yn y cyfnod cyn yr is-etholiad, wedi dechrau colli tir yn yr etholaeth, roedd amser Gwynfor Evans wedi dod, yn ôl cyn-Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan.
Dywedodd wrth Golwg360: “Os buodd na achlysur erioed lle’r oedd y funud iawn wedi cyrraedd i’r person iawn, hwnnw oedd o.
“Hynny yw, doedd na ddim byd ynglŷn â’r etholiadau cynt yn awgrymu’n bod ni’n mynd i ennill y sedd, ond o’dd amser Gwynfor wedi dod.
“Wrth gwrs, mi enillodd o’n ysgubol am fod ei amser o wedi dod.
“Dwi’n hollol sicr, yn y cyfarfod cynt, o’dd pawb yn gwybod fod o’n mynd i ddigwydd. Dwi erioed wedi cael y teimlad wedyn, hynny yw, sicrwydd fod ‘na rywbeth mawr, torri drwodd mawr yn digwydd. Dwi’n falch iawn o gael bod yma heddiw.”
Yn ôl Dafydd Iwan, roedd y fuddugoliaeth yn “drobwynt mawr yn hanes gwleidyddol Cymru”.
“Mi newidiodd gwrs gwleidyddiaeth cwrs gwleidyddiaeth Cymru. Oni bai am y fuddugoliaeth yn 66, fyddai gyda ni ddim Cynulliad heddiw. Dwi’n hollol sicr o hynna.
“Does na’m dwywaith. Mi o’dd hi’n drobwynt mawr yn hanes gwleidyddol Cymru. Mae’n dda bod ‘na gofeb bellach ar y sgwâr i gofio’r achlysur ac i gofio Gwynfor.”
‘Mwy na jyst coffáu Gwynfor’
Roedd nifer helaeth o aelodau teulu Gwynfor Evans yn y seremoni yn y sgwâr yng Nghaerfyrddin, ac fe ddywedodd un o’i wyrion, Mabon ap Gwynfor wrth Golwg360 fod y digwyddiad yn gyfle i wneud “mwy na jyst coffáu Gwynfor”.
“Mae’n hyfryd bod pobol wedi mynd i’r drafferth i drefnu’r diwrnod yma i goffau’r cyfraniad wnaeth Gwynfor a’i lwyddiant e. Ond mae’n fwy na jyst coffau Gwynfor.
“Rhaid i ni gofio bod dros 16,000 o bobol wedi pleidleisio drosto fe ar y diwrnod yna.
“Mae’n goffâd i’w gweledigaeth nhw hefyd.”
Ynghyd ag un o feibion Gwynfor, Alcwyn Deiniol, cafodd y gofeb ei dadorchuddio gan asiant etholiadol Gwynfor Evans, Cyril Jones.
Meddai Mabon ap Gwynfor: “ O’dd e’n hyfryd gweld Cyril ‘ma. Cyril oedd yr asiant a’r trefnydd.
“Mae’n goffâd i’w waith e, yn goffâd parhaol.
“Gwynfor oedd y wyneb i’r gwaith rhagorol hyn oedd wedi bod yn mynd ymlaen, gyda chynifer o bobol, miloedd o bobol, yn cymryd rhan.
“Ers hynny, wrth gwrs, mae gyda ni goffâd arall i waith Gwynfor a’r genhedlaeth yna lawr ym Mae Caerdydd ac mae hwnna ‘na am byth.”