Y prosiect ar waith (Llun: Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd)
Mae prosiect newydd ar y gweill i geisio darganfod a oes gan wenyn Cymru acenion rhanbarthol gwahanol.
Drwy holi 3,236 o wenynwyr a phobol gyffredin ledled y wlad am glipiau sain, mae gwyddonwyr yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn ceisio dysgu mwy am synau gwenyn a dysgu mwy amdanyn nhw er mwyn eu helpu yn y dyfodol.
Nod arall yw casglu lluniau a fideos o gan wenynwyr o bob cwr o Gymru er mwyn deall yn well pa amgylchiadau sydd orau i gynhyrchu mêl.
Mae’r gwyddonwyr yn gosod system fonitro o bell ar do’r Ysgol Fferylliaeth er mwyn gwrando ar synau gwenyn sydd yno a chofnodi ffactorau fel tymheredd a lleithder y cwch.
Iechyd yn dylanwadu ar sŵn y gwenyn
Yn ôl Les Baillie, sy’n Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caerdydd, gallai iechyd y gwenyn ddylanwadu ar eu sŵn mewn cwch gwenyn.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd gwenynwyr ledled Cymru yn anfon ffeiliau sain, fideos a lluniau o wenyn o amgylch eu cychod er mwyn i ni allu creu darlun o’r haf – sŵn suo gwenyn, traffig ac ati,” meddai.
Dywedodd hefyd y gallai cofnodi eu sŵn helpu’r gwyddonwyr i wybod pa blanhigion sy’n helpu gwenyn fwyaf a deall lle yng Nghymru nad oes cymaint o wenyn ag mewn lleoedd eraill.
“Bydd hyn hefyd o gymorth er mwyn rhoi planhigion yn y mannau cywir i wneud gwenyn yn fwy cynhyrchiol.”
Apêl am luniau a chlipiau sain
Os bydd digon o wenynwyr yng Nghymru yn ymateb, gallai’r prosiect gael ei ymestyn i gynnwys dros 40,000 o wenynwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Mae gofyn i wenynwyr, neu unrhyw un sydd â diddordeb, anfon lluniau i wefan wyddoniaeth yr Ysgol, ac anfon clipiau sain at BaillieL@caerdydd.ac.uk.