Owen Smith (Llun: Wykehamistwikipedian CCA4.0)
Bydd AS Pontypridd Owen Smith yn pwyso am ail refferendwm ar ddyfodol y DU o fewn yr Undeb Ewropeaidd petai’n cael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur.
Dywedodd yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid bod llawer o bleidleiswyr bellach yn difaru eu penderfyniad ac yn flin ar ôl cael eu “camarwain” gan yr ymgyrch Brexit.
Mynnodd y dylai’r Blaid Lafur ymrwymo i ail refferendwm, neu o leiaf etholiad cyffredinol, unwaith y bydd hi’n dod yn fwy amlwg beth fydd Brexit yn ei olygu.
Dywedodd cyn-lefarydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid wrth bapur newydd y Guardian y dylai Llafur roi cyfle arall i’r cyhoedd os mai dyna yw eu dymuniad.
Dywedodd Owen Smith, a ymunodd â’r ras i herio Jeremy Corbyn ddydd Mercher, y dylai o neu Angela Eagle sefyll o’r neilltu cyn y bleidlais, yn ddibynnol ar bwy sydd a’r mwyaf o gefnogaeth, yn hytrach na rhannu’r pleidleisiau yn erbyn Corbyn.
Fodd bynnag, dywedodd Angela Eagle ei bod hi’n barod i herio’r ddau arall am yr arweinyddiaeth.