Maes awyr Caerdydd (llun: CC2.0/M J Richardson)
Yn ôl y ffigurau diweddara’, maes awyr Caerdydd sy’n tyfu gyflyma’ yn y Deyrnas Unedig, gyda dros filiwn o deithwyr yn ei ddefnyddio bob blwyddyn.
Mae hynny’n dwf o 28% dros y 12 mis diwetha’, ac yn ystod mis Mehefin eleni fe wnaeth nifer y teithwyr gynyddu 17% o gymharu â’r un mis y llynedd.
Yn ôl y maes awyr, llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 sy’n gyfrifol am ran o’r cynnydd, gyda 6,000 o deithwyr wedi teithio o Gaerdydd i Ffrainc i wylio Cymru’n chwarae.
Cafodd digwyddiad arbennig ei drefnu yn y maes awyr hefyd, pan laniodd y tîm cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu’r ffigurau, gan ddweud bod y Llywodraeth wedi gwneud y “penderfyniad cywir” wrth ymyrryd yn y busnes yn 2013.
Fe brynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr am £52 miliwn ar y pryd.
Ym mis Mawrth eleni, cafodd y Llywodraeth ei beirniadu’n hallt gan arbenigwyr am beidio â chael cynllun hirdymor ar gyfer y maes awyr.
‘Ased cenedlaethol’
Yn ôl cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis, mae’r ffigurau yn dangos i’r byd bod Cymru “ar agor am fusnes.”
“Rydym wedi cyflawni twf mewn 13 mis yn olynol ac wedi llwyddo i dyfu 28% dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Yn fwy na hyn, rydym yn hyderus y bydd (y maes awyr) yn parhau i dyfu dros y ddwy flynedd nesa’. Rydym yn ased cenedlaethol i Gymru ac rydym yn bwriadu ehangu ein gweithgarwch i adlewyrchu hyn.”
Mwy o deithiau
Mae gwasanaethau’r maes awyr yn cynyddu hefyd, gyda theithiau uniongyrchol i Orlando, Verona, Napoli, Fenis a Dubrovnik yn ystod haf 2017. Bydd teithiau ychwanegol yn ystod y gaeaf hefyd i’r Caribî gyda chwmni P&O Cruises.