Cynlluniau ar gyfer Carchar Wrecsam
Does dim gofynion ar staff yng ngharchar newydd Wrecsam i feddu ar unrhyw sgiliau Cymraeg, yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder.
Fe ddywedodd Andrew Selous nad oes unrhyw ofynion penodol dros sgiliau Cymraeg staff yn yr unig garchar yng ngogledd Cymru, ond bydd disgwyl i “o leia’ rhai” o’r staff i allu siarad Cymraeg a Saesneg.
Ond wrth gael ei holi gan Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd, nid oedd yn gallu cadarnhau faint o’r staff fydd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngharchar Berwyn.
Mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn gan Liz Saville-Roberts, sy’n dweud bod y weinyddiaeth wedi dangos “difaterwch llwyr” tuag at y Gymraeg.
Yn ôl yr Aelod Seneddol, sy’n llefarydd Plaid Cymru ar faterion cyfiawnder, mae gan y system gyfiawnder yng Nghymru anghenion unigryw ac fe alwodd ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dynnu’r hysbysebion yn ôl ac ail-ystyried.
Mae hefyd wedi galw ar y weinyddiaeth i bennu pa gyfran o’i staff y mae’n disgwyl iddyn nhw allu siarad Cymraeg.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau wrth Golwg360 na fydd yn newid ei barn ar y mater.
“Tanseilio’r” Gymraeg
Aeth Liz Saville-Roberts ymhellach, gan ddweud bod gofynion ‘unigryw’ Cymru yn cael eu tanseilio gan Lywodraeth sydd “heb unrhyw syniad go iawn o rôl bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd Cymru.”
“Sut gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyfiawnhau hysbysebu swyddi mewn carchar yng Nghymru, a fydd yn ddi-os yn gartref i garcharorion sy’n siarad Cymraeg, heb fod angen i’r staff fod a gafael ar yr iaith?” meddai.
“Ni ddylai’r Gymraeg gael ei thrin fel rhywbeth ychwanegol a dewisol.”
“Mae’r ymateb diystyriol yma at sgiliau iaith Gymraeg yn torri Cynllun Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, a byddaf yn codi’r mater hwn gyda gweinidogion y llywodraeth a Meri Huws , Comisiynydd y Gymraeg.”
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn y gogledd, Arfon Jones, wedi ymateb hefyd, gan ddweud bod y Gweinidog Cyfiawnder wedi “dangos dirmyg arferol y Llywodraeth tuag at yr iaith Gymraeg.”
“Nid yw hyn yn ddigon da. Dylai’r Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol fod wedi adnabod nifer o swyddi Cymraeg hanfodol o fewn y carchar i gwrdd ag anghenion y 700 + o garcharorion o Gymru a fydd wedi eu carcharu yma,” meddai.