Llun: PA
Yn dilyn cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar gwtogi nifer yr ysgolion uwchradd yn y sir o 14 i chwech neu saith, mae cynghorwyr wedi rhoi sêl bendith i ymgynghori ar y mater ymhellach.
Fe fydd y broses ymgynghori yn dechrau yn y misoedd nesa’ gyda disgwyl y bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Gareth Thomas, yn adrodd yn ôl i’r Cyngor erbyn mis Tachwedd.
Ar hyn o bryd, does dim sôn y bydd ysgolion yn cau, yn hytrach, bydd rhai yn uno, gan ddod dan reolaeth un pennaeth.
Mae’r Cyngor yn dweud ei fod yn cael trafferth recriwtio penaethiaid ysgolion, yn enwedig yn ardaloedd gwledig y sir, gan fod pwysau ar y penaethiaid i ddysgu yn ogystal â rheoli ac arwain.
Mae pryderon wedi codi dros broblemau recriwtio mewn ysgolion cynradd hefyd, gydag arbenigwyr addysg yn argymell creu cyfres o ysgolion cydweithredol.
Bydd yr ymgynghoriad, fydd yn holi Llywodraethwyr ac ysgolion, yn canolbwyntio ar gyfres o egwyddorion fydd yn sail i gyfundrefn addysg newydd yng Ngwynedd dan yr enw ‘Ysgol Gwynedd’.
Daw hyn o adroddiad dau ymgynghorydd addysg ar y sefyllfa, sy’n dweud nad yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da.
Pwnc llosg
Mae’r mater o uno a chau ysgolion wedi bod yn bwnc llosg yng Ngwynedd ers tro, gyda’r ymgynghoriad diwethaf ar y mater yn arwain at sefydlu plaid Llais Gwynedd, sy’n gwrthwynebu cau ysgolion, a lwyddodd i gipio 12 o seddi.