Carwyn Jones Llun: Senedd.tv
Mae Carwyn Jones wedi gohirio cyhoeddi Rhaglen y Llywodraeth tan fis Medi gan ddweud bod Brexit wedi “newid pethau’n sylweddol.”
“Mae ’na gymaint o gwestiynau ynglŷn â’r dyfodol ac, yn syml, nid oes gennym yr atebion” meddai’r Prif Weinidog.
Ychwanegodd y byddai effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyllideb a rhaglenni Llywodraeth Cymru “yn sylweddol.”
Dywedodd nad oedd am wneud “addewidion heddiw rwy’n gwybod y byddwn ni yn ei chael yn anodd ei gweithredu” gan gyhoeddi y bydd yn gohirio cyhoeddi’r rhaglen tan fis Medi pan mae disgwyl rhagor o wybodaeth, er mwyn gwneud “asesiad mwy realistig o’n sefyllfa ariannol.”
‘Dim sicrwydd am arian o’r UE’
Nid oes unrhyw sicrwydd, meddai, gan Lywodraeth y DU y bydd y £600 miliwn y flwyddyn mae Cymru’n ei dderbyn gan yr UE yn parhau ar ôl i’r DU adael yr Undeb, a heb y sicrwydd hynny mae Llywodraeth Cymru’n wynebu “twll mawr iawn” yn ei chyllideb yn y dyfodol.
Serch hynny, meddai Carwyn Jones, mae e ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi bod yn gweithio’n agos gyda busnesau a buddsoddwyr yng Nghymru er mwyn eu sicrhau a gwrando ar eu pryderon ac maen nhw’n gobeithio gwneud “cyhoeddiadau sylweddol” yn fuan.
Dywedodd y bydd datblygiad y prosiect Metro yn parhau, er y bydd yn rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu’r prosiect ac fe allai gymryd ychydig hirach i’w gyflawni.
Ychwanegodd y bydd iechyd, swyddi ac addysg yn parhau i fod wrth wraidd cynlluniau’r Llywodraeth.
‘Defnyddio Brexit fel esgus’
Wrth ymateb i gyhoeddiad Carwyn Jones dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies bod y Prif Weinidog yn “defnyddio Brexit fel esgus am ei ddiffyg syniadau.”
“Yn hytrach nag oedi fe ddylai’r Prif Weinidog fwrw mlaen gyda Rhaglen y Llywodraeth.
“Ry’n ni’n gwybod y gallai trafodaethau Brexit gymryd hyd at ddwy flynedd i’w cwblhau ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni fydd newid yn yr arian sy’n cael ei dderbyn o’r UE. Fe fyddwn ni’n parhau i dalu mewn i’r UE a pharhau i gael arian ar gyfer prosiectau Ewropeaidd.
“Y realiti yw bod y Prif Weinidog mewn perygl o gael ei weld fel ei fod yn defnyddio refferendwm yr UE i gelu’r ffaith bod gan y Llywodraeth fawr ddim i’w ddweud am y materion sy’n wynebu cymunedau Cymru, fel y Gwasanaeth Iechyd, safonau addysg sy’n dirywio, a’r angen i hybu economi Cymru.
“Fel eu cydweithwyr Llafur yn Llundain, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru’n dioddef o ddiffyg arweiniad, a diffyg syniadau.”