Bay TV
Mae sianel deledu leol newydd yn Abertawe wedi dechrau darlledu am y tro cyntaf heddiw ac mae un o’r cyflwynwyr wedi dweud ei bod hi’n bwysig cael cynnwys Cymraeg ar y sianel.
Dywedodd Chris Davies, cyflwynydd y rhaglen gylchgrawn Gymraeg ar Bay TV, eu bod nhw eisiau adlewyrchu cymuned Abertawe, “ac mae’r Gymraeg yn rhan o gymuned Abertawe”.
Fe fydd Bay TV yn darlledu newyddion, chwaraeon ac adloniant i wylwyr ar deledu Freeview, Virgin Media ac ar-lein o stiwdios yn Abertawe.
Bu Chris Davies yn siarad gyda golwg360 yn fuan wedi ei ddarllediad cyntaf heddiw lle’r oedd y comedïwr lleol Steffan Alun yn westai iddo yn y stiwdio.
“Heddiw yw’r diwrnod cyntaf a ni’n dod trwyddi,” meddai Chris Davies, wnaeth astudio Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“’Heddiw gyda Chris Davies’ yw enw’n rhaglen i a ma’ fe mhlân dydd Llun i ddydd Gwener am 1.30 y prynhawn.
“Rhaglen Gymraeg yw hi ond os oes gwestai’n dod i mewn sydd methu siarad Cymraeg, fi’n gwneud y cyfweliad yn Saesneg.
“Roedd penaethiaid y sianel eisiau adlewyrchu cymuned Abertawe ac mae’r Gymraeg yn rhan o gymuned Abertawe.”