Llun: PA
Mae 91% o bobl yn credu y dylai pobl sy’n achosi marwolaeth drwy yfed a gyrru neu gymryd cyffuriau gael dedfryd o ddynladdiad.
Dyna gasgliad arolwg o 1,000 o bobl o Brydain a wnaed gan yr elusen Brake.
Ac mae’r elusen yn galw drachefn ar Lywodraeth y DU i adolygu eu canllawiau o ran dedfrydu gyrrwyr troseddol, lle mae dedfryd oes yn bosib drwy ddynladdiad.
Dedfrydau llymaf ‘yn brin’
Ar hyn o bryd, mae gyrwyr sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn wynebu dedfrydau am farwolaeth drwy yrru’n beryglus neu’n ddiofal.
Er bod y cyfnod yn y carchar ar gyfer hynny’n amrywio rhwng 26 wythnos a 14 blynedd, dywed Brake fod y dedfrydau llymaf yn brin.
Roedd 66% o’r bobl a gymrodd ran yn yr arolwg hefyd yn dweud y dylai gyrrwr sy’n achosi marwolaeth gael eu carcharu am o leiaf 10 mlynedd.
Mae’r elusen wedi lansio deiseb ar-lein yn galw am gryfhau’r ddedfryd, ac maen nhw eisoes wedi derbyn mwy na 2,700 o lofnodion.
Mae’r ddeiseb yn nodi bod pum person yn cael eu lladd ar y ffyrdd bob dydd, gan ddweud: “Pan mae bywyd yn cael ei gymryd, dylai’r gosb adlewyrchu’r drosedd.”
‘Sarhad’
Mae teulu merch ifanc o Geinewydd yn cefnogi ymgyrch elusen Brake, sef Roads to Justice.
Cafodd Miriam Briddon, 21 oed, ei lladd mewn damwain car ddwy flynedd yn ôl wrth deithio i gyfeiriad Felin-fach yng Ngheredigion.
Fe blediodd Gareth Entwistle yn euog o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol a’i ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar.
Ond, dywedodd y barnwr y llynedd y gallai gael ei ryddhau ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.
Ar raglen Y Byd ar Bedwar yn gynharach eleni, dywedodd mam Miriam, Ceinwen Briddon:
“Mae’n sarhad i’r cof amdani mai dim ond dwy flynedd a hanner fydd e’n gorfod neud yn y carchar. Os yw rhywun yn lladd rhywun diniwed, dylai’r ddedfryd fod yn ugain mlynedd a mwy yn y carchar,” meddai.