Tîm pêl-droed Abertawe'n cael seibiant o'r ymarfer i ddymuno'n dda i Ashley Williams, Neil Taylor a'r garfan oll
Mae llu o negeseuon wedi cael eu rhoi i dîm pêl-droed Cymru ar wefannau cymdeithasol ar drothwy eu gêm fwyaf erioed.

Ar drothwy’r gêm gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal, sy’n dechrau am 8 o’r gloch, mae ysgolion a rhai o enwogion Cymru wedi bod yn dymuno’n dda i’r bechgyn ar Twitter.

Y neges gyntaf gan ddau aelod o deulu Owain Fôn Williams yn Ysgol Bro Lleu, Penygroes, Caernarfon:


Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn yn perfformio cymysgedd o ganeuon a dawnsfeydd poblogaidd o’r terasau: 

A’r neges hon yn dod gan Mali Harries a chast y gyfres deledu Y Gwyll: 

Ysgol Morgan Llwyd, Yr Wyddgrug sy’n ‘Rhedeg i Baris’:

Pearl Mackie a Matt Lucas o gast y gyfres deledu Dr Who sy’n anfon y neges hon:


Ac yn olaf, er gwaetha’r siom o fynd allan yn rownd yr wyth olaf, tîm Gwlad yr Iâ: