Fe fydd yna ddathlu mawr yn un o fwytai Caerdydd nos Fercher os yw Portiwgal yn llwyddo i guro Cymru a chyrraedd rownd derfynol Ewro 2016.

Mae Madeira Restaurante lain a milltir i ffwrdd o Stadiwm Principality yn y brifddinas, lle bydd un o ffanbarthau Cymru’n croesawu 27,500 o gefnogwyr i wylio’r gêm ar sgrin fawr.

Agorodd y bwyty Portiwgeaidd 18 o flynyddoedd yn ôl ac mae ganddo enw da eisoes am ddathliadau penblwyddi.

Ond mae’n bosib na fydd eu staff, o leiaf, yn dathlu pe bai Cymru’n ennill.

‘Lletchwith’

Dywedodd y rheolwr, Lucia Fodil: “Mae’n mynd i fod yn eitha lletchwith heno gan y byddwn ni ar agor pan fo’r gêm ymlaen.

“Byddwn ni’n cadw llygad ar y gêm drwy’r amser, ond mae’n bosib y bydd rhaid i ni ddathlu’n dawel bach os ydyn ni’n sgorio.”

I rai, meddai, bydd y profiad o wylio’r ddwy wlad yn herio’i gilydd yn ennyn teimladau cymysg.

“Mae pawb yn Madeira wedi bod yn cefnogi’r ddau dîm drwy gydol y twrnament.

“Er i fi gael fy ngeni a’m magu ym Mhortiwgal, rwy wedi byw yng Nghymru ers 26 o flynyddoedd ac yn ystyried fy hun yn Gymraes.

“Wrth gwrs ein bod ni am weld Portiwgal yn cyrraedd y ffeinal, ond fyddai hi ddim yn ddiwedd y byd pe bai Cymru’n mynd drwodd.

“Maen nhw wedi bod yn wych drwy gydol y twrnament ond dw i’n dal i feddwl y gwnawn ni ennill o 1-0.”