Mae’r Gwasanaeth Tân wedi llwyddo i achub dyn a oedd wedi’i ddal yn sownd rhwng wal a ffens dros nos yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i heol yn yr Eglwys Newydd ger tafarn y Fox and Hounds am 6.30yb bore dydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru fod y dyn wedi’i ddal rhwng ffens a wal am tua saith awr cyn i’r criw ddefnyddio offer i’w gael yn rhydd.

“Dydyn ni ddim yn gwybod sut yr aeth yn sownd,” meddai.

Mae’r dyn bellach yn cael triniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd am ddysychiad ac mae’n bosib ei fod wedi torri’i goes.