Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi amlinellu’r camau nesaf heddiw yn y broses o ddatganoli pwerau trethu i Gymru.
Mae hynny’n cynnwys cyflwyno dau Fesur newydd i fynd i’r afael â’r pwerau trethu yng Nghymru, sef Treth Trafodiadau Tir (LTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (LDT).
Ymhen dwy flynedd (2018), fe fydd trethu stamp a threthu dirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru ac yn ôl Mark Drakeford bydd hyn yn “newid arwyddocaol” i’r modd y caiff y gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu.
Camau nesaf
Yn ei ddatganiad heddiw, eglurodd Mark Drakeford y bydd angen:
- Cyhoeddi fersiwn ddrafft o Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – cyn eu cyflwyno wedyn yn yr hydref.
- Cyhoeddi ymgynghoriad technegol ar gyfradd ychwanegol ail dai yn y Dreth Trafodiadau Tir.
- Cynnal trafodaethau â Thrysorlys y DU i sicrhau fframwaith cyllidol teg i Gymru.
- Bwrw ymlaen â’r gwaith o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, gan gynnwys penodi cadeirydd yn ystod y misoedd nesaf.
Gostyngiad yn y grant bloc
Yn sgil y datganoli trethu, fe fydd Cymru yn wynebu gostyngiad cyfatebol yng ngrant bloc Cymru.
Er hyn, mae’r Ysgrifennydd wedi cadarnhau ei fod “eisoes yn trafod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fel bod modd cael fframwaith cyllido a fydd yn sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled.”
Ychwanegodd y bydd “fframwaith cyllidol synhwyrol yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig – penderfyniad a ddylai barhau i fod yn gyfrifoldeb i’r Cynulliad.”
‘Carreg filltir bwysig’
Esboniodd hefyd y bydd yn ceisio sicrhau y bydd trethi Cymru “yn deg ac mor syml â phosib” gan roi sefydlogrwydd i drethdalwyr a hybu twf a swyddi.
“Bydd datganoli trethi yn rhoi’r cyfle i Gymru edrych ar ei chyllid mewn modd mwy cyfannol, integredig a hirdymor.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein taith ar hyd llwybr datganoli, ac yn newid arwyddocaol yn y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu,” meddai.