David TC Davies yn dweud bod dewis rhywun sy'n gallu trefnu Brexit yn bwysig
Mae Aelod Seneddol Sir Fynwy, David TC Davies wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “hapus iawn” gyda phob un o’r ymgeiswyr i olynu David Cameron fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
Pump ymgeisydd sydd yn y ras i olynu Prif Weinidog Prydain ar ôl iddo gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo o ganlyniad i benderfyniad pobol Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Y pump sydd yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth yw’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove, y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Dr Liam Fox a’r Gweinidog Ynni Andrea Leadsom.
Dywedodd David TC Davies wrth Golwg360: “Dwi’n hapus iawn gyda’r pump ohonyn nhw. Bydda i’n hapus iawn i weithio o dan unrhyw un ohonyn nhw.”
Ond fe gyfaddefodd nad yw’n sicr ar hyn o bryd pa un o’r pump fydd yn cael ei bleidlais pan ddaw’r amser i ddewis yr arweinydd newydd gan ei fod yn “gallu gweld cryfderau a gwendidau gyda phob un.”
Pwyso a mesur y pump
Er bod Theresa May yn “ymddangos fel arweinydd”, dywedodd fod angen “rhywun sy’n gallu trafod gyda’r gwledydd eraill dros y ddwy flynedd nesaf, ac mai Gove fyddai’r person gorau am y rheswm hwnnw.
Gove oedd un o’r prif ymgyrchwyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dydy hynny “ddim yn bwysig”, yn ôl David TC Davies.
“Mae’n bwysig bo ni’n cael datganiad clir wrth bawb am beth maen nhw eisiau gwneud a sut maen nhw’n mynd i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.”
Yr unig Gymro ar y rhestr yw’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb, sy’n ffrind i Davies, ond fe ddywedodd na fyddai hynny’n dylanwadu ar ei ddewis.
“Stephen Crabb yw’r unig un sy’n ffrind i fi. Dwi wedi siario swyddfa gyda fe ers blynyddoedd. Dwi’n nabod Steve yn iawn. Dwi’n meddwl ei fod e wedi gwneud swydd arbennig o dda yn y Swyddfa Gymreig.”
Ond fe ddywedodd y gallai diffyg proffil y tu allan i Gymru fod yn faen tramgwydd i gyn-Ysgrifennydd Cymru.
“Yn fy marn i, gallai e wneud y swydd, ond dydy lot o bobol allan o Gymru ddim wedi clywed amdano fe.”
Dywedodd fod Andrea Leadsom yn wynebu’r un broblem y tu allan i’w hetholaeth hithau yn Swydd Northampton.
Er bod Davies yn cyfaddef ei fod yn nes o lawer at ddaliadau gwleidyddol Liam Fox na’r pedwar arall, dywedodd nad oedd hynny’n golygu y byddai’n arweinydd da.
“Mae Liam Fox wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd. Allan o bob un ohonyn nhw, dw i’n fwy agos at Liam o safbwynt gwleidyddol ond mae’n lot fwy na hynny i wneud y swydd.
“Mae’n bwysig gyda pob un ohonyn nhw i edrych ar y tîm maen nhw’n gallu cael o gwmpas nhw.”
Boris Johnson
Mynegodd David TC Davies ei sioc fod cyn-Faer Llundain, Boris Johnson wedi penderfynu peidio â sefyll ar ôl bod yn un o’r prif ymgyrchwyr ‘Brexit’ cyn refferendwm Ewrop.
Dywedodd ei fod yn ystyried Johnson a Gove fel partneriaeth a allai fod wedi llwyddo, a bod cyhoeddiad Johnson na fyddai’n sefyll wedi bod yn dipyn o sioc iddo gan ei fod yn ymddangos fel penderfyniad “dros nos”.
“Pan oedd Boris yn mynd i weithio gyda Michael, ro’n i’n hapus iawn, a lot o bobol eraill yn mynd i ymuno â’r tîm. Ar hyn o bryd, mae’r holl beth i fyny yn yr awyr. Dw i eisiau gweld pwy ydi’r ‘big beasts’ sy’n mynd i ymuno â nhw nawr. Mae eisiau edrych ar hynny cyn bo ni’n gwneud y penderfyniad.
“Ro’n i’n siarad gyda’r ddau ohonyn nhw y diwrnod o’r blaen, yn y prynhawn. Ro’n i’n trafod yr arweinyddiaeth gyda Boris. Dywedais i wrtho fe ‘Pwy sy’n mynd i ddod gyda chi? Ydych chi’n mynd i weithio gyda Michael Gove? Dywedodd e “Ie, siaradwch â fe”.
“Dwi wedi siarad gyda Michael. Dw i’n credu ei fod e wedi dweud ei fod e’n rheoli’r ymgyrch ar gyfer Boris. Ydw i wedi cofio hynny’n anghywir? Dw i ddim yn siwr. Dw i’n siwr fod e’n rhan bwysig o’r tîm ac roedd hynny’n bwysig i fi.
“Does dim syniad gyda fi o gwbl beth ddigwyddodd. Roedd rhywbeth wedi digwydd dros nos. Achos dw i’n glir am rywbeth. Y diwrnod o’r blaen, roedd y ddau ohonyn nhw’n agos ac yn dweud bo nhw’n mynd i weithio gyda’i gilydd.”