Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 56 oed o Gasnewydd fynd ar goll.

Dydy Martin Pienczke ddim wedi cael ei weld ers dydd Gwener, ac mae’r heddlu’n gofidio am ei ddiogelwch.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 5’8″ ac o gorffolaeth fawr. Mae ganddo fe wallt tywyll a llygaid brown.

Pan gafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Maerun, roedd yn gwisgo côt ddu a siwmper wyrddlas, trowsus llwyd ac esgidiau duon.

Mae’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd o amgylch y ddinas, ac mae’n adnabyddus yn ardal Casnewydd a Rhisga.

Mae lle i gredu ei fod e ar ei ffordd i ddal bws rhif 30 i ganol Casnewydd brynhawn dydd Gwener pan aeth e ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.