Mae heddlu yn nhre’r Barri wedi arestio dyn 42 oed yn dilyn marwolaeth yn ystod oriau mân dydd Sadwrn.

Bu farw dyn 27 mlwydd oed yn dilyn digwyddiad mewn lôn gefn yn ardal Broad Street tua 4 o’r gloch y bore.

Mae pobol yn cael eu rhwystro rhag mynd i’r ardal, tra bod yr heddlu’n parhau i ymchwilio. Mae dyn 29 mlwydd oed hefyd yn y ddalfa, yn dilyn y digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sy’n gwybod be’n union ddigwyddodd yno, i ffonio ar y rhif 101, neu i gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 1111.