Emily Gater (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ferch 15 oed sydd ar goll o’i chartre’ ym Mhontypridd.

Does neb wedi gweld Emily Gater ers tua 5yp ddydd Iau, Mehefin 30. Mae hi tua 5 troedfedd 4 modfedd o daldra, gyda gwallt brown tywyll at ei hysgwyddau.

Y tro diwetha’ y gwelwyd hi, roedd hi’n gwisgo legins du a siaced las â ffwr o gwmpas y cwfl.

Mae plismyn yn credu y gallai fod wedi gwneud ei ffordd i ardal Gwent, ond maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif 101.