Bydd Ryan Giggs yn gadael Manchester United ar ôl 29 mlynedd gyda’r clwb, yn ôl y BBC.
Fe wnaeth Ryan Giggs chwarae 963 o weithiau i’r clwb ac ers iddo ymddeol mae wedi bod yn hyfforddwr a rheolwr cynorthwyol.
Roedd ganddo flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb fel rheolwr cynorthwyol – ond mae disgwyl i’r rheolwr newydd, Jose Mourinho, roi’r swydd honno i’w gadfridog teyrngar Rui Faria.
Roedd y clwb wedi gobeithio perswadio Giggs i aros yn Old Trafford a gwneud swydd wahanol, llai pwysig. Ond mae’n ymddangos bod y Cymro 42 mlwydd oed wedi wfftio’r cynnig hwnnw.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol yn y dyddiau nesaf.