Roedd hi’n noson gymysg i dimau Cymru yng Nghynghrair Europa ddoe wrth i’r Bala, Llandudno a Chei Conna chwarae yn rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth.
Bydd Cei Conna ar ben eu digon ar ôl llwyddo i gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn y tîm o Norwy, Stabaek, ar gae’r Belle Vue yn Y Rhyl. Dyma ymddangosiad cyntaf Cei Conna ar y llwyfan Ewropeaidd ac fe fyddan nhw’n mynd i Norwy i gwffio am y cyfle i fynd i’r ail rownd ragbrofol.
Colli 2-0 oedd hanes y Bala yn Sweden ddoe wrth iddyn nhw herio AIK. Ond dyw popeth ddim ar ben i’r Bala petaen nhw’n llwyddo i wneud yn well yn y Belle Vue ddydd Iau nesaf.
Tobias yn tanio
Mae hi’n stori wahanol iawn i Landudno a gafodd eu malu 5-0 gan IFK Goteborg yn Sweden. Sgoriodd Goteborg ddwy yn y 12 munud cyntaf ac un arall cyn hanner amser. Daeth dwy gôl olaf i Tobias Hysen yng nghrys Goteborg, a hynny o fewn dwy funud i’w gilydd yn y deg munud olaf. Bydd yr ail gymal yn cael ei chware ym Mangor nos Iau.