Chris Coleman - angerdd (Llun y Gymdeithas Bel-droed)
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi addo “uffern o gêm” i Gwlad Belg yn rownd wyth ola’ Ewro 2016 heno.

Ond fe rybuddiodd y byddai’n rhaid i’r chwaraewyr fod ar eu gorau glas yn erbyn y Belgiaid, sy’n ail ar restr pêl-droed y byd – er fod Cymru wedi cael un fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal yn eu herbyn yn y tair gornest ddiwetha’.

Roedd yn pwysleisio’r ysbryd a’r angerdd yn y tîm cyn y gêm yn Lille yng ngogledd Ffrainc: “Pan fydd yn amser i amddiffyn, byddwn yn gwneud hynny gyda’n bywydau, a phan fydd hi’n amser i ymosod, byddwn yn ymosod gyda’n bywydau,” meddai.

“Os ydyn ni’n gwneud hynny, bydd Gwlad Belg yn gwybod fod ganddyn nhw uffern o gêm oherwydd, rydyn ni wedi gwneud hynny o’r blaen iddyn nhw.”

Carfan lawn

Mae gan Cymru garfan lawn wedi i’r capten Ashley Williams wella ar ôl anafu ei ysgwydd yn erbyn Gogledd Iwerddon y penwythnos diwetha’.

Ond dyw Gwlad Belg heb fod mor lwcus o ran anafiadau wrth i Jan Vertonghen ymuno â Vincent Kompany a Nicolas Lombaerts yn yr eisteddle ar ôl rhwygo gewynnau ei ffêr mewn sesiwn hyfforddi ddoe.

Yn ogystal, mae Thomas Vermaelen wedi ei wahardd ar ôl cael dwy garden felen yn y gystadleuaeth.

‘Y bwysica’ ers 1958’

Mae Chris Coleman wedi galw’r gêm yr un bwysica’ i Gymru ers iddyn nhw gyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958 pan lwyddodd Pelé ifanc i sgorio i Brasil a tharo Cymru allan o’r  bencampwriaeth.

Ac er bod y tîm eisoes wedi gwneud yn well nag oedd llawer yn disgwyl, mae’r rheolwr wedi dweud bod Cymru’n yn awyddus i fynd ymhellach eto, er bod angen mwynhau’r profiad hefyd.

“Dydw i ddim yn mynd i anwybyddu fod hon yn gem ac yn achlysur anferth,” meddai. “Dyn ni’n gwybod beth sydd yn y fantol, dyn ni’n gwybod ein bod yn ei haeddu, ac mae’n lle gwych i fod.”