Stephen Crabb yn lansio ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn Llundain heddiw Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Stephen Crabb yw’r aelod cyntaf o’r Blaid Geidwadol i lansio ymgyrch am arweinyddiaeth y blaid, gan roi addewid i reoli mewnfudo.

Mewn cynhadledd newyddion yn Llundain heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, a oedd wedi cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod ymgyrch y refferendwm, y byddai’n gweithio i weithredu Brexit, a bod y broses yn “ddi-droi’n-ôl”.

Fe gyfaddefodd nad ef yw’r ffefryn yn y ras am yr arweinyddiaeth, sy’n debygol o gynnwys ymgyrchydd blaenllaw Brexit, Boris Johnson, a’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ond dywedodd na ddylai fod yn ras rhwng y ddau geffyl blaen yn unig.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox, hefyd wedi cyhoeddi prynhawn ma y bydd sefyll fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid yn cynnal ymgyrch ar y cyd a Stephen Crabb, a’r disgwyl yw mai Javid fyddai’n cael ei benodi’n Ganghellor petai’r ddau yn llwyddo yn y ras.

Yr her fwyaf sy’n wynebu olynydd David Cameron yw trafod y modd y bydd y DU yn gadael yr UE yn dilyn canlyniad y refferendwm.

‘Heriau’

Dywedodd Stephen Crabb y byddai’n galw am gynnal etholiad er mwyn ennill mandad gan y genedl ar ran y Ceidwadwyr.

Wrth gyfeirio at ei gefndir, dywedodd Crabb iddo gael ei eni yn yr Alban cyn symud i Gymru, lle cafodd addysg mewn ysgol gyfun ger ystad o dai cyngor.

“Ar gaeau rygbi gwlyb gorllewin Cymru y dysgais i nad yw’n fater o aros i’r bêl ddisgyn allan drwy gefn y sgrym.”

Heriau

Dywedodd AS Preseli a Sir Benfro: “Heddiw rydym yn wynebu cyfres o heriau nad ydym erioed wedi’u gweld ym Mhrydain, cyfres o broblemau sy’n hynod o anodd ei deall.”

Nid oes unrhyw ganllaw ar gyfer hyn, meddai, gan ddweud nad oes yr un “ymgeisydd yn y ras sy’n gallu sefyll yma heddiw a darparu’r holl atebion.”

Ychwanegodd na fyddai unrhyw “gamu nôl” o ganlyniad y bleidlais ac mae wedi diystyru cynnal ail refferendwm.

‘Tair blaenoriaeth’

Mae wedi gosod tair blaenoriaeth ar gyfer y trafodaethau am ddyfodol Prydain yn Ewrop a’r cyntaf yw rheoli mewnfudo.

“Y neges ddaeth drosodd yn gliriach nag unrhyw un arall yn y bleidlais wythnos ddiwethaf oedd bod pobl Prydain eisiau rheoli mewnfudo.

“Yn ail, mae’n rhaid i ni geisio sicrhau perthynas economaidd glos gyda’r UE fel sydd gennym ni ar hyn o bryd.

“Yn drydydd: dod a diwedd i oruchafiaeth cyfraith yr UE.”

Mae wedi galw am ddiwedd i’r cecru o fewn y blaid gan ddweud mai ef yw’r ymgeisydd i uno’r blaid a’r wlad.

Mae’r AS wedi cael cefnogaeth i’w ymgyrch gan y Twrne Cyffredinol Jeremy Wright, y gweinidog plant Edward Timpson yn ogystal â llond llaw o aelodau meinciau cefn y blaid.