Tîm Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Wrth gyrraedd rowndiau’r wyth olaf ym mhencampwriaeth Ewro 2016 eleni, mae’r tîm cenedlaethol eisoes wedi sicrhau gwerth 14 miliwn ewro i goffrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
A phetaen nhw’n curo Gwlad Belg yn Lille nos Wener, fe allen nhw ennill 4 miliwn ewro yn ychwanegol.
Yn ôl Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu’r Gymdeithas, maen nhw’n bwriadu buddsoddi’r arian i ddatblygu’r gamp yng Nghymru, ond does dim sicrwydd eto beth fydd y swm.
Buddsoddi ym mhêl-droed Cymru
Cafodd y gymdeithas 8 miliwn ewro wrth i’r tîm gymhwyso yn y lle cyntaf ac esboniodd Ian Gwyn Hughes wrth Golwg360, “mae’r arian yna wedi’i ddefnyddio i dalu am adnoddau, teithio, gwersyll a chanolfannau’r wasg ag ati.”
Am bob gêm mae’r tîm yn ennill, maen nhw’n cael 1 miliwn ewro ynghyd â 1.5 miliwn ewro am gyrraedd yr 16 olaf a 2.5 miliwn ewro am gyrraedd yr wyth olaf.
“Er bod yr arian sy’n dod i mewn yn fawr, mae’r arian sy’n mynd allan yn fawr hefyd a fyddwn ni ddim yn gwybod tan ddiwedd y gystadleuaeth beth fydd y swm – ond mi fydd o’n cael ei fuddsoddi’n ôl i bêl-droed yng Nghymru.”
Croeso yn Dinard
Esboniodd Ian Gwyn Hughes fod y tîm bellach yn ôl yn eu gwersyll yn Dinard “ac mae’r croeso gan y trigolion lleol wedi bod yn anhygoel.”
“Ar ôl prysurdeb Paris, Bordeaux, Toulouse a Lens, mae’n braf dod yn ôl i dawelwch a llonyddwch Dinard.”
Dywedodd fod y garfan wrthi’n paratoi at y gêm fawr nos Wener ac wrth gydnabod sgôr 4 – 0 Gwlad Belg yn erbyn Hwngari neithiwr dywedodd, “does dim dwy gêm yr un peth, ond o edrych ar y pedair gêm ddiwethaf yn eu herbyn mae gennym ni record dda.”
“I ddweud y gwir, mae’n hollol ffantastig ein bod ni yn rownd yr wyth olaf,” meddai wrth Golwg360.
“Dydan ni ddim isio fo i ddod i ben, achos mae yna fwrlwm a dwyt ti ddim yn gwybod pryd fyddwn ni’n profi rhywbeth fel hyn eto.”