Ashley Williams (llun: CBDC)
Bydd Ashley Williams yn holliach i wynebu Gwlad Belg nos Wener wrth i Gymru gyrraedd rownd y chwarteri yng nghystadleuaeth Ewro 2016.
Dyna’r cadarnhad a gafwyd gan y rheolwr Chris Coleman heddiw wrth i’r tîm baratoi am ei gêm nesaf yn dilyn buddugoliaeth o drwch blewyn rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon ddydd Sadwrn.
Cafodd capten y tîm ei anafu yn ystod y gêm honno, gyda phryderon ei fod wedi datgymalu ei ysgwydd.
Ond mae Chris Coleman yn dweud ei fod yn iawn ac y bydd yn gallu chwarae gyda’i gyd-chwaraewyr nos Wener.
Yr “her fawr” nesa’
Fe gurodd Gwlad Belg Hwngari yn hawdd neithiwr o 4-0, ac mae Cymru wedi derbyn bod ei sefyllfa yn wannach yn erbyn y Belgiaid.
Ond mae’r tîm fodd bynnag yn parhau i fod yn hyderus, gyda Chris Coleman yn dweud nad oes “dim” ganddyn nhw i ofni.
“Gwyliais y gêm neithiwr ond does dim gennym ni i’w ofni. Ydyn, maen nhw’n dîm da,” meddai yn Dinard heddiw.
“Bydd disgwyl iddyn nhw ennill, sy’n her fawr arall i ni.”
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg am 8 o’r gloch yn Lille nos Wener.