Chwaraewyr Cymru'n diolch i'r dorf ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon
Wedi buddugoliaeth hanesyddol arall i Gymru ym Mharis ddydd Sadwrn, Owain Schiavone sy’n asesu perfformiadau unigol chwaraewyr Cymru.

Doedd hi ddim y gêm orau rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon ar Parc de Princes bnawn Sadwrn. Ond doedd dim disgwyl iddi fod mewn gwirionedd – mae unrhyw un sy’n gyfarwydd â llwyddiant diweddar y Gwyddelod yn gwybod mai gwaith caled a’r gallu i amharu ar gêm y gwrthwynebwyr ydy sail y llwyddiant hwnnw.

Wedi dweud hynny, ar ôl perfformiad ardderchog y tîm yn erbyn Rwsia, roedd ambell chwaraewr yn edrych yn nerfus. Dechreuodd Coleman gyda’r un XI ag a ddechreuodd yn erbyn Rwsia, ond roedd y rheolwr unwaith eto’n ddigon craff i wneud y newidiadau iawn ar yr amser iawn. Deg allan i ddeg i Coleman felly, ond dyma fy marn am berfformiadau’r chwaraewyr.

Wayne Hennessey – Dim gormod i’r golwr ei wneud, ond fe ddeliodd yn dda â chwpl o groesiadau peryglus ac arbed dwy ergyd bwerus o bellter gan Dallas a Ward. Mae’n rhoi hyder i’w amddiffyn, sy’n bwysig iawn. 8

Chris Gunter – Tawel yn y ddwy gêm gyntaf ond yn fwy bywiog yn y ddwy ddiweddaraf. Cadarn yn amddiffynnol ac yn gweithio’n galed i fyny ac i lawr yr asgell dde. Mae’r rhediad yma’n golygu mwy iddo na neb, a’r cefnogwyr yn gwerthfawrogi hynny. 7

Neil Taylor – Ar ôl gêm ardderchog yn erbyn Rwsia, roedd yn siomedig yma. Cwpl o gamgymeriadau elfennol ar ddechrau’r gêm yn adlewyrchu golwg nerfus y tîm. Gwell yn yr ail hanner ond gwybod bod llawer mwy ganddo i’w gynnig. 6

Ben Davies – Perfformiad cadarn arall gan y cefnwr chwith sy’n gorfod chwarae yng nghanol yr amddiffyn. Efallai chwaraewr mwyaf cyson y tîm hyd yma – mae’n cynnig y mymryn o gyflymder a hunanfeddiant ar y bêl sy’n eisiau gan Ashley Williams. 8

James Chester – Chwaraewr gorau Cymru ddydd Sadwrn. Roedd Kyle Lafferty’n ddraenen gyson yn ystlys Cymru ond fe wnaeth Chester ddwy dacl anferth ar yr ymosodwr i achub ei dîm. Gwella gyda phob gêm ac yn bownd o fod yn dal llygad ambell reolwr. 9. Seren y gêm.

Ashley Williams – Heb fod ar ei orau yn y bencampwriaeth hyd yn hyn, ond y capten ydy curiad calon y tîm ac mae’n arwain gydag awdurdod a balchder yn y crys. Fe ddangosodd hynny trwy fynnu aros ar y cae ar ôl cael anaf cas i’w ysgwydd…er mai bai ei hun oedd yr anaf gyda chliriad gwyllt a allai fod wedi anafu Jonathan Williams hefyd. 7

Joe Ledley – Dechrau gêm am y trydydd tro mewn 9 diwrnod ar ôl dychwelyd o anaf, ac roedd yn edrych yn flinedig…er bod digon o fywyd ynddo wrth ddathlu ar ôl y gêm ar sail rhai o’r fideos sydd wedi ymddangos! Ddim ei gêm orau wrth i’r Gwyddelod gyfyngu’r lle yng nghanol cae. 6

Joe Allen – Roedd y Gwyddelod  wedi gwneud eu gwaith cartref ac yn ymwybodol iawn o fygythiad Pirlo Penfro. Llwyddodd canol cae Gogledd Iwerddon i’w gadw’n dawel, ond fe weithiodd yn galed fel arfer a dyfalbarhau. 7

Aaron Ramsey – Ar ôl ei gêm orau dros Gymru yn erbyn Rwsia, roedd braidd yn  siomedig yn y chwarter cyntaf gan ildio’r bêl yn rhy hawdd a cheisio gwneud gormod. Braidd yn flêr i fod yn camsefyll wrth rwydo o beniad Vokes hefyd. Tipyn gwell yn yr ail hanner, yn enwedig wedi i Jonny Williams ddod o’r fainc a chaniatáu i Ramsey godi’r bêl yn ddyfnach a dechrau rheoli’r gêm. Croesiad gwych y dylai Vokes fod wedi’i chladdu ar ddechrau’r ail hanner. 7

Gareth Bale – Gêm anodd i seren y tîm wrth i Jonny Evans ‘wneud job’ arno’n ardderchog. Bob tro roedd yn derbyn y bêl roedd tri o’r gwrthwynebwyr ar ei ben yn syth. Er hynny, roeddech chi wastad yn teimlo y gallai wneud rhywbeth, ac roedd wedi tynnu’n rhydd ar y chwith a chroesi cwpl o weithiau yn y munudau cyn y croesiad perffaith allai Gareth McAuley wneud dim amdani ond gwyro i’w gôl ei hun. 7

Sam Vokes – Dechreuodd Vokes y gêm gyfeillgar yn erbyn yr un gwrthwynebwyr fis Mawrth, a methu â dylanwadu ar y gêm. Roedd yn ddiwrnod caled arall i’r ymosodwr mawr, yn rhannol oherwydd amddiffyn cadarn y Gwyddelod, ac yn rhannol oherwydd diffyg peli o safon gan ei gydchwaraewyr. Peniad da i roi’r cyfle i Ramsey pan oedd hwnnw’n camsefyll, ond fe ddylai fod wedi sgorio o groesiad perffaith Ramsey’n ddiweddarach. Annhebygol o ddechrau’r gêm nesaf. 6

Eilyddion:

Hal Robson-Kanu (am Vokes ’55) – Fe wnaeth wahaniaeth gyda’i redeg gan ymestyn amddiffyn y gwrthwynebwyr ac mae ei barodrwydd i ymladd am y bêl yn codi’r dorf. 7

Jonny Williams (am Ledley ’62) – Hanner awr ardderchog gan Jonny bach gan gynnig yr union beth oedd angen ar Gymru. Doedd dim ateb gan Iwerddon i’w allu i redeg gyda’r bêl ac fel yn y gêm oddi-cartref yn erbyn Yr Alban yn 2013, fe newidiodd ei ymddangosiad y gêm. Bydd temtasiwn i Coleman ei ddechrau’n erbyn Gwlad Belg. 9