Guto Harri, cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson
Does neb yn gallu sicrhau y bydd Cymru’n cael “siâr o’r gacen” yn dilyn canlyniad Brexit yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Dyna farn Guto Harri, cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson pan oedd yn Faer Llundain, sy’n dweud bod y bleidlais yn “her anferth” i Gymru a gwledydd eraill Prydain.
“All bets are off yw hi nawr. R’yn ni wedi chwalu’r gyfundrefn oedd gennym ni, a does dim byd y gall neb gymryd yn ganiataol,” meddai wrth golwg360.
Dywedodd fod Boris Johnson, un o’r ffefrynnau ar hyn o bryd i olynu David Cameron ynghyd a’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yn “ymwybodol o Gymru”, ond does dim sicrwydd y bydd yn gallu diogelu arian i Gymru yn dilyn Brexit.
“Mae Boris yn credu’n gryf yn y Deyrnas Unedig, mae’n ymwybodol o Gymru, mae wedi sefyll am sedd seneddol yng Ngogledd Cymru a dysgu bach o Gymraeg.
“Ond ni mewn byd newydd a sai’n credu gall neb gymryd dim byd yn ganiataol, ac efo’r her anferth sydd ‘na o wneud i hyn (Brexit) weithio i wledydd Prydain, mae’n anodd iawn gwarantu y bydd siâr o’r gacen yn dod i Gymru.”
Boris – ‘byrbwyll’
Dywedodd wrth golwg360, ei fod “wastad wedi meddwl” y byddai Boris Johnson yn Brif Weinidog ond nid drwy’r ffordd hon, sydd wedi bod yn ffordd “fyrbwyll” o geisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, meddai.
“Dwi wastad wedi meddwl y gallai fod, ac i ryw raddau y byddai e’n Brif Weinidog, ond roedden i’n dychmygu hynna yn digwydd mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn sydd wedi digwydd nawr,” meddai.
“Ro’n i wedi disgwyl gweld Boris yn rhoi’r gorau i fod yn Faer, helpu David Cameron i ennill y refferendwm, cael swydd uchel iawn yn y llywodraeth, o bosib yn Ysgrifennydd Tramor a chael cyfle i brofi ei hun ar lwyfan hyd yn oed yn fwy.”
Byddai gwneud pethau’r ffordd honno wedi ei roi mewn “sefyllfa iawn i ennill yr arweinyddiaeth” pan fyddai David Cameron wedi camu o’r neilltu o fewn dwy flynedd,” medd Guto Harri.
“Ond mae hyn wedi digwydd mewn ffordd lawer iawn mwy byrhoedlog a falle mewn ffordd llawer mwy byrbwyll, ond mae mewn sefyllfa gref iawn nawr ac i bob pwrpas mae 17 miliwn o bobol eisoes wedi pleidleisio dros ei weledigaeth y dylai gwledydd Prydain adael (Ewrop).”