Stephen Crabb AS Preseli Sir Benfro Llun: PA
Wrth i’r dyfalu ynghylch pwy fydd yn y ras i olynu David Cameron, mae’n debyg mai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yw’r ffefryn i fynd yn erbyn Boris Johnson.

Theresa May, a fu’n dawel iawn dros gyfnod ymgyrchu’r refferendwm, a Boris Johnson, cyn-Faer Llundain ac un o arweinwyr ymgyrch Brexit, yw’r ddau brif gystadleuydd ymhlith 10 ymgeisydd posib arall.

Mae’r rhain yn cynnwys AS Preseli Sir Benfro  Stephen Crabb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Roedd Stephen Crabb o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dros benwythnos digon cythryblus ers i Brydain bleidleisio dros adael yr UE ac ers i David Cameron gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo yn yr Hydref, mae Boris Johnson a Theresa May wedi bod yn ceisio.

Bu Aelodau Seneddol Ceidwadol oedd am aros yn rhan o’r UE yng nghartref Boris Johnson ddydd Sul, ac mae’n debyg bod Theresa May wedi cysylltu â sawl cyd-weithiwr hefyd i drafod ei hymgais.

Ymgeiswyr eraill

Y Ceidwadwyr eraill oedd o blaid aros a allai fod yn y gystadleuaeth yw Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes; Nicky Morgan, yr Ysgrifennydd Addysg, ac Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Ynni a Hinsawdd.

Mae’n debyg bod Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Iechyd, hefyd yn ystyried y swydd.

Nid yw’r Canghellor George Osborne wedi datgan ei fwriad i ymgeisio am y swydd ond mae disgwyl iddo wneud cyhoeddiad am ei rôl yn y blaid o fewn y dyddiau nesaf.

Mae’r Brexitwyr yn cynnwys Andrea Leadsom, y gweinidog ynni a newid hinsawdd, Priti Patel, y gweinidog gwaith a phensiynau a Liam Fox, y cyn ysgrifennydd amddiffyn.

“Arweinyddiaeth unedig”

Mae disgwyl i Boris Johnson a Theresa May gyhoeddi eu ceisiadau’r wythnos hon, gydag un o weinidogion y Cabinet, Justine Greening, yn eu hannog i ffurfio “arweinyddiaeth unedig” i helpu dod â’r wlad ynghyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, os na fydd Boris Johnson a Theresa May yn gallu cytuno, bydd yn rhaid i Aelodau Seneddol eraill o bob ochr o’r refferendwm gamu i’r adwy i “ddod â Phrydain yn ôl at ei gilydd.”

Mae disgwyl penodi olynydd David Cameron erbyn yr Hydref a gallai hyn arwain at Etholiad Cyffredinol arall.