Chris Bryant yn rhybuddio Jeremy Corbyn ynghylch y dyfodol
Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei fod wedi ymddiswyddo o gabinet cysgodol Llafur yn San Steffan.
Bryant oedd arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin, ond fe ddywedodd fod arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn mewn perygl o gael ei gofio fel “y dyn wnaeth dorri’r Blaid Lafur”.
Dywedodd Bryant fod Corbyn a Changhellor cysgodol y blaid, John McDonnell wedi siomi cenhedlaeth o bobol ifanc.
Yn ei lythyr yn ymddiswyddo, dywedodd: “Gwnaeth yr wythnos diwethaf newid popeth.”
Dywedodd fod “tolc sylweddol” o bolisi economaidd a thramor y blaid wedi cael ei drechu yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd: “…Gwnaeth eich anallu i roi neges glir, ddiamwys i bleidleiswyr Llafur gyfrannu’n helaeth at y canlyniad.”
Wrth gyfeirio at yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd Bryant na all Corbyn “redeg ymgyrch genedlaethol effeithiol” ac nad oes ganddo fe gefnogaeth Prydain.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, galwodd ar Corbyn yntau i ymddiswyddo, gan ddweud ei fod yn “ddyn iawn” ac y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn ei “ganmol” am wneud y peth cywir drwy ymddiswyddo, ond “os ydych chi’n gwrthod camu o’r neilltu rwy’n ofni y byddwch chi’n cael eich cofnodi mewn hanes fel y dyn wnaeth dorri’r Blaid Lafur.”