Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn wedi dweud wrth Golwg360 y bydd yn hawdd penodi aelodau newydd i gabinet cysgodol y blaid yn San Steffan.
Mae’r rhestr o aelodau’r cabinet sydd wedi ymddiswyddo yn dilyn penderfyniad Jeremy Corbyn i ddiswyddo’r llefarydd tramor Hilary Benn yn parhau i dyfu.
Mae ansicrwydd o hyd a fydd dau o’r aelodau seneddol Cymreig, Chris Bryant ac Owen Smith yn aros yn y cabinet.
Ond dywedodd Paul Flynn wrth Golwg360 fod nifer o’r bobol sydd wedi ymddiswyddo’n “dead wood” ac y “bydd yn hawdd cael pobol eraill yn eu lle”.
“Ry’n ni wedi cael yr un peth o’r blaen gyda phobol yn ymddiswyddo bob awr ar y teledu. Dw i ddim yn credu y bydd unrhyw effaith o gwbl. Bydd llawer o bobol yn barod i gymryd lle’r bobol sy’n ymddiswyddo.”
Dywedodd fod Hilary Benn wedi “bradychu” Jeremy Corbyn, a bod arweinydd Llafur wedi gwneud y penderfyniad cywir i’w ddiswyddo.
Diffyg hyder
Wrth ymateb i’r posibilrwydd y gallai Corbyn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn San Steffan yr wythnos hon, dywedodd Paul Flynn mai mater i aelodau’r blaid, nid i aelodau seneddol, yw dwyn yr arweinydd i gyfrif.
“Y bobol sy’n rhedeg y blaid ydi’r aelodau, gyda llawer o ddylanwad oddi wrth yr undebau llafur hefyd, nid yr aelodau seneddol.
“Os yw’r aelodau seneddol yn ceisio cael etholiad am arweinydd newydd, rwy’n siŵr y bydd Jeremy Corbyn yn ennill y tro nesaf. Mae’r holl beth yn ddi-bwys – rhyw fath o stunt yw e a dim ond helpu’r Blaid Doriaidd fydd hyn.”
Yn ôl Paul Flynn, mae gan Corbyn gefnogaeth aelodau’r blaid o hyd.
“Mae Jeremy wedi bod yn agosach at deimladau’r bobol am Ewrop nag oedd Cameron neu Boris Johnson. Barn Jeremy oedd aros i mewn, ond heb fod yn hapus gyda phopeth. Rwy’n credu y byddai’n beth da i sicrhau bod Jeremy yn cadw rhyw bellter rhwng ymgyrch y Blaid Lafur ac ymgyrch y Blaid Geidwadol.”