Trudy Jones yn un o'r rhai gafodd eu lladd (Llun: Heddlu'r De)
Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ddydd Sul, flwyddyn union ar ôl i 38 o bobol gael eu saethu’n farw ar draeth yn Nhiwnisia.
Bydd munud o dawelwch yn cael ei chynnal ddydd Llun gan staff Llywodraeth Prydain.
Roedd Trudy Jones, 51 o’r Coed Duon, ymhlith y rhai a gafodd eu lladd gan Seifeddine Rezgui ar draeth yn Port El Kantaoui ger Sousse ar Fehefin 26 y llynedd.
Cafodd Rezgui ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn yr ymosodiad, ac fe hawliodd y Wladwriaeth Islamaidd gyfrifoldeb am y digwyddiad.
Ers y digwyddiad, mae’r Swyddfa Dramor wedi bod yn annog pobol o wledydd Prydain i osgoi mynd i Diwnisia oni bai bod rhaid.