Mae Amgueddfa Cymru a’r Undeb Gwasanaethu Masnachol (PCS) wedi cyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb ar gyflogau, gan ddod ag anghydfod diwydiannol sydd wedi para dros ddwy flynedd i ben.
Mae aelodau’r undeb wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig a gyflwynwyd gan yr Amgueddfa’r wythnos ddiwethaf, cynnig a wnaed oherwydd cefnogaeth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Daw’r cytundeb â thaliadau premiwm am weithio ar benwythnosau i ben, er y bydd gweithwyr yn dal i gael eu talu am weithio ar wyliau banc.
O ganlyniad, bydd amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn ailagor fel arfer dros y dyddiau nesaf.
Falch o daro bargen
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi dod i gytundeb â PCS, fel gweddill ein hundebau llafur, ar gael gwared ar y taliadau premiwm, a bod yr anghydfod nawr ar ben.
“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’n hymwelwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Rwy’n edrych ymlaen at allu cynnig profiad amgueddfa gwerth chweil i drigolion Cymru a thu hwnt.
“Y flaenoriaeth yw dod â’n staff at ei gilydd – y rheiny a fu ar streic a’r rhai a fu’n dod i’r gwaith – a chydweithio unwaith yn rhagor ar ein gwasanaethau ac ar amcanion craidd y corff.”
Sefyllfa ariannol ddifrifol
Yn ôl David Anderson “dyma un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebwyd gan yr Amgueddfa erioed, ac mae ein sefyllfa ariannol yn ddifrifol iawn o hyd. Serch hynny, mae gennym lawer o brojectau ar y gweill yr ydym yn falch iawn ohonynt, gan gynnwys ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac sy’n addo dyfodol cadarn a phositif.
“Mawr obeithiaf y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd nawr, gan geisio sicrhau dyfodol cadarn a sefydlog i Amgueddfa Cymru er budd y genedl.”