Jeremy Clarkson yn anobeithio... am 24 awr
Mae canwr One Direction wedi ei gynddeiriogi gan sylwadau Nigel Farage.

Fe fu arweinydd UKIP yn trafod ariannu’r Gwasanaeth Iechyd ar raglen Good Morning Britain yn dilyn Brexit y bore yma.

Fe ddywedodd Nigel Farage mai camgymeriad oedd honni yn ystod yr ymgyrch tros adael, y byddai modd dargyfeirio miliynau o bunnau i goffrau’r Gwasanaeth Iechyd, pe bae Brexit.

Yn trydar, fe ddywedodd Niall Horan, canwr One Direction: “Sut fedrwch chi hudo cyn gymaint â hynny o bobl i feddwl bod y gwasanaeth iechyd yn mynd i gael ei ariannu, a phan mae’r bleidlais yn mynd o’ch plaid… Dweud wrthyn nhw ‘ni ddylen ni fod wedi dweud hynny ac roedd yn gamgymeriad’. Cachu tarw.”

Mae’r awdur enwog JK Rowling wedi mynegi ei siom gyda Brexit hefyd.

Ac mae’r cyflwynydd James Corden wedi trydar: “Rydw i mor sori dros bobol ifanc Prydain. Rydw i’n ofni eich bod chi wedi eich gadael i lawr heddiw.”

Mae brodyr y band Oasis, Liam a Noel Gallagher, hefyd wedi mynegi eu siom ar wefan trydar.

Ac mae cyn-gyflwynydd Top Gear wedi trydaru neges. Bu i Jeremy Clarkson ymddangos wrth ysgwydd David Cameron yn cefnogi’r achos dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe drydarodd Clarkson: “Reit. Fe ddylen ni gael 24 awr o gwyno ac anobaith, ac yna fe fydd yn rhaid i ni gyd dorchi llewys a gwneud i’r gawod gachu yma weithio.”