Ar ôl i Gymru guro Rwsia nos Lun a gorffen ar frig Grŵp B yn Ewro 2016, bydd rhaid iddyn nhw aros tan nos Fercher i ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rownd yr 16 olaf.

Mae Cymru eisoes yn gwybod y byddan nhw’n mynd i Baris i chwarae yn y Parc des Princes ddydd Sadwrn (Mehefin 25), ac y byddan nhw’n chwarae un o dri thîm sydd wedi gorffen yn y trydydd safle – naill ai yng ngrŵp A, C neu D.

Ar hyn o bryd, mae’n debygol mai Albania, Gogledd Iwerddon neu Dwrci fydd eu gwrthwynebwyr, ond fydd hynny ddim yn cael ei gadarnhau tan ar ôl y gemau nos Fercher.

Mae Cymdeithas Bêl-droed wedi trydar y neges ganlynol i Ogledd Iwerddon i’w llongyfarch ar eu llwyddiant:

Mae UEFA wedi cynnig eglurhad ynghylch yr holl bosibiliadau yn y grwpiau sy’n effeithio ar y timau y gallai Cymru eu hwynebu. Anadl ddofn amdani….

Grŵp A

Mae Ffrainc wedi ennill y grŵp ac fe fyddan nhw’n herio un o’r timau sydd wedi gorffen yn drydydd yn Lyon ddydd Sul.

Y Swistir sydd wedi gorffen yn yr ail safle, ac fe fyddan nhw’n wynebu Gwlad Pwyl yn St-Etienne ddydd Sadwrn.

Bydd rhaid i Albania aros i weld a fyddan nhw’n un o’r pedwar tîm gorau yn y trydydd safle. Mae angen iddyn nhw ddibynnu ar Sweden neu Weriniaeth Iwerddon i gael gêm gyfartal neu golli, neu i Weriniaeth Iwerddon gael gêm gyfartal neu golli ac i Wlad Belg golli o bedair gôl, ac i Bortiwgal golli. Fe allai Albania herio Cymru, neu’r Almaen ddydd Sul yn Lille.

Mae Rwmania eisoes allan o’r gystadleuaeth.

Grŵp C

Mae’r Almaen drwodd ar ôl ennill y grŵp ac fe fyddan nhw’n herio un ai’r trydydd tîm yng ngrŵp A, B neu F yn Lille ddydd Sul.

Gwlad Pwyl orffennodd yn ail, ac fe fyddan nhw’n herio’r Swistir yn St-Etienne ddydd Sadwrn.

Mae Gogledd Iwerddon wedi gorffen yn drydydd ac maen nhw’n un o’r pedwar tîm gorau yn y trydydd safle. Byddan nhw naill ai’n herio Cymru neu Ffrainc.

Mae’r Wcráin eisoes allan o’r gystadleuaeth.

Grŵp D

Croatia sydd drwodd fel enillwyr y grŵp ac fe fyddan nhw’n herio un o’r timau yn y trydydd safle o blith grwpiau B, E neu F yn Lens ddydd Sadwrn.

Sbaen oedd yn ail ar ôl colli yn erbyn Croatia nos Fawrth, ac fe fyddan nhw’n herio’r Eidal yn Stade de France nos Lun.

Yn y trydydd safle roedd Twrci, sy’n dibynnu ar Sweden neu Weriniaeth Iwerddon i fethu ag ennill, neu Weriniaeth Iwerddon i fethu ag enill a Gwlad Belg i golli o bedair gôl, neu Bortiwgal i golli.

Mae Gweriniaeth Tsiec eisoes allan o’r gystadleuaeth.

Gemau nos Fercher

Gwlad yr Iâ v Awstria, 5 o’r gloch

Hwngari v Portiwgal, 5 o’r gloch

Yr Eidal v Gweriniaeth Iwerddon, 8 o’r gloch

Sweden v Gwlad Belg, 8 o’r gloch