Mae clybiau pêl-droed Caerdydd a Chasnewydd wedi darganfod fore Mercher pwy fyddan nhw’n herio pryd yn y Gynghrair Bêl-droed yn ystod tymor pêl-droed 2016-17.
Mae Caerdydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth, lle gwnaethon nhw orffen yn yr wythfed safle’r tymor diwethaf, tra bod Casnewydd yn yr Ail Adran ar ôl gorffen yn ail ar hugain y tymor diwethaf.
Caerdydd
Taith i Birmingham sydd gan Gaerdydd ar ddiwrnod cynta’r tymor ar Awst 6, a byddan nhw’n croesawu QPR i’r brifddinas wythnos yn ddiweddarach ar Awst 13 ar gyfer eu gêm gartref gyntaf.
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, byddan nhw’n teithio i Brentford ar Ddydd San Steffan ac i Brighton & Hove Albion ar Nos Galan, cyn croesawu Aston Villa i Gaerdydd ar Ionawr 2.
Bydd eu gêm gyfatebol yn erbyn Aston Villa, sydd wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair, ar Dachwedd 26.
Byddan nhw’n wynebu un arall o’r timau wnaeth ddisgyn o’r Uwch Gynghrair, Norwich oddi cartref ar Fedi 10, a’r gêm gyfatebol ar Chwefror 4.
Y trydydd tîm wnaeth ddisgyn oedd Newcastle, ac fe fydd Caerdydd yn eu hwynebu nhw ar Dachwedd 5 ym Mharc St James cyn eu croesawu nhw i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ebrill 29, sef eu gêm gartref olaf.
Bydd eu gêm olaf ar Fai 7, a honno yn erbyn Huddersfield.
Mae modd gweld y rhestr yn llawn ar eu gwefan.
Casnewydd
Gêm gartref sydd gan Gasnewydd ar ddiwrnod cynta’r tymor ar Awst 6, a honno yn erbyn Mansfield.
Byddan nhw’n teithio i Leyton Orient wythnos yn ddiweddarach ar Awst 13.
Adeg y Nadolig a’r Flwyddyn newydd, byddan nhw’n croesawu Portsmouth ar Ddydd San Steffan a Chaerwysg ar Nos Galan, cyn teithio i Wycombe ar Ionawr 2.
Bydd eu gêm oddi cartref olaf yng Nghaerliwelydd ar Ebrill 29, a’u gêm gartref olaf ar ddiwrnod ola’r tymor ar Fai 6 yn erbyn Notts County.
Mae modd gweld y rhestr yn llawn ar eu gwefan.
Rhestrau eraill
Bydd rhestr gemau Wrecsam yng Nghyngres Vanarama yn cael eu cyhoeddi ar Orffennaf 6, tra bod rhestr gemau gemau Abertawe yn yr Uwch Gynghrair eisoes wedi’u cyhoeddi.