Pump wiced i Timm van der Gugten (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Cipiodd bowliwr cyflym Morgannwg, Timm van der Gugten bum wiced mewn batiad am yr ail waith – gan sicrhau ei ffigurau gorau erioed yn y Bencampwriaeth i Forgannwg – wrth iddo orffen gyda ffigurau o 5-90 yn erbyn Swydd Gaint.

Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 282 yn ystod sesiwn ola’r trydydd diwrnod, ac fe gipiodd van der Gugten ei bumed wiced wrth gael gwared ar Mitch Claydon, oedd â’i goes o flaen y wiced.

Daeth ei wiced gyntaf oddi ar belen gynta’r trydydd diwrnod, wrth iddo gipio wiced Daniel Bell-Drummond, oedd wedi rhoi daliad syml i’r slip Will Bragg.

Joe Denly oedd ei ail glaf, wrth iddo yntau gael ei fowlio, ac fe gafodd Sean Dickson ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace.

Yr un cyfuniad gafodd wared ar Calum Haggett wrth i’r Iseldirwr gipio’i bedwaredd wiced.

Mae’r ffigurau’n curo’r 5-90 a gafodd yr Iseldirwr yn erbyn Swydd Essex yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Roedd carreg filltir hefyd i Michael Hogan, y bowliwr cyflym o Awstralia, a gipiodd wiced rhif 200 mewn gemau dosbarth cyntaf.

Ar ddiwedd batiad Swydd Gaint, roedd gan Forgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf o 69.