Fe fu’n rhaid i wicedwr Swydd Gaint, Adam Rouse adael y cae yn ystod ail sesiwn trydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd ar ôl anafu ei fys.
Cafodd Rouse ei gynnwys yng ngharfan yr ymwelwyr fel eilydd hwyr yn lle Sam Billings.
Ond ac yntau’n 31 heb fod allan, fe gafodd ei daro ar ei fys gan y bowliwr cyflym Graham Wagg, a doedd dim modd iddo barhau.
Erbyn iddo adael y cae, roedd Rouse wedi adeiladu partneriaeth o 72 gyda Sean Dickson, ac roedd Swydd Gaint yn 157-5, 194 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 351.
Ond ar ôl cael triniaeth, dychwelodd Rouse i’r cae ychydig cyn te ar ôl i’r ymwelwyr golli eu chweched wiced am 205, ac roedd e allan yn y pen draw am 65.