Cefnogwyr Cymru yn dathlu ar ol buddugoliaeth yn erbyn Rwsia yn Toulouse. Llun: Martin Rickett/PA
Roedd yr awyrgylch yn y gêm yn “wych” neithiwr yn ôl un cefnogwr pêl droed Cymru, sydd “heb weld Cymru’n chwarae mor dda erioed.”

Doedd Ffion Eluned Owen methu credu’r hyn ddigwyddodd yn Toulouse, wrth i Gymru guro Rwsia 3-0 a dod ar frig Grŵp B ym mhencampwriaeth Ewro 2016.

“Yn yr 20 munud gyntaf, oedd hi’n 2-0, a ro’n ni isio pinsio fy hun a gofyn ‘ydy hyn actually’n digwydd?!’,” meddai.

Mae’r fyfyrwraig 25 oed yn rhan o griw o 10 sydd yn Ffrainc ar gyfer  y bencampwriaeth, a gyda Chymru wedi sicrhau lle yn yr 16 olaf, mae’r daith yn amlwg wedi talu ffordd.

“Roedd neithiwr yn wych, oedd yr awyrgylch a’r canu, ‘naethon ni (y cefnogwyr) ddim stopio canu am 90 munud.

“Ac ar ôl y chwiban olaf, oedd pawb yn aros yno yn eu seddi yn canu – oedd ‘na neb isio symud!”

Dim dathlu yn Toulouse

Er y fuddugoliaeth, doedd dim llawer o ddathlu ar strydoedd Toulouse am fod y tafarndai i gyd wedi cau, rhag ofn y bydd trafferthion gan gefnogwyr Rwsia, sydd wedi cael llawer o’r bai yn ystod y bencampwriaeth am ymddygiad hwliganaidd.

“Oedd pob man wedi cau achos y trwbl sydd wedi bod gan bobol Rwsia, oedd ‘na ‘nunlla ar agor, aethon ni jyst yn ôl (i’r campyrfán) a dathlu drwy wylio highlights y gêm!” ychwanegodd Ffion.

Cyn dod i Ffrainc, roedd y criw wedi cael eu twyllo wrth geisio llogi campyrfán, ar ôl darganfod bod y cwmni oedd wedi llogi’r cerbyd iddyn nhw ddim yn bodoli.

Ond mae’r grŵp wedi hen gyrraedd Ffrainc erbyn hyn ac yn cael amser wrth eu boddau wrth ddilyn Cymru ledled Ffrainc.

Y ddinas yn diolch i’r Cymry

Wrth siarad â golwg360, roedd y grŵp o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn teithio drwy Toulouse, am y daith i Baris, ac fe ddechreuodd pobol leol ganu corn ar y Cymry, i ddiolch i’r cefnogwyr am eu hymweliad.

Fe wnaeth swyddogion yr heddlu o Gymru, sydd wedi bod yn rhoi cymorth i’r awdurdodau yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016, ganmol cefnogwyr  Cymru yn Toulouse hefyd, gan nodi nad oedd yr un Cymro na Chymraes wedi cael ei arestio.

Mae disgwyl y bydd degau ar filoedd o Gymry ym Mharis ddydd Sadwrn pan fydd Cymru’n chwarae ei gêm nesaf.

Does neb yn gwybod pwy fydd y tîm yn ei wynebu hyd yn hyn ond mae disgwyl y cawn wybod ddydd Mercher.