Dywed Heddlu’r Gogledd bod corff dyn wedi’i ddarganfod ger Bangor nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw am 7yh nos Fawrth, 21 Mehefin ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn coedwig ger Caerhun.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond mae’r heddlu’n credu mai corff Michael Bryn Jones o Landudno, a oedd wedi bod ar goll, sydd wedi’i ddarganfod.

Ar hyn o bryd nid yw’r heddlu’n credu fod ei farwolaeth yn amheus.

Mae’r heddlu wedi cysylltu â theulu Michael Bryn Jones.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar gyffordd 11 ar yr A55 ar gyrion Bangor tua 5.45yb ar 3 Ebrill.