Carly Roberts Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ferch 15 oed sydd ar goll o Bont-y-pŵl.
Cafodd yr heddlu wybod fod Carly Roberts ar goll ar Fehefin 19.
Roedd hi’n gwisgo siaced denim las a jeans gwyn ar y pryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.