Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth a thystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A496 yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog neithiwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car VW Golf du a cherddwr.

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i’r digwyddiad tua 11.11yh nos Sul, Mehefin 19.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol cyn ei drosglwyddo i Ysbyty Stoke lle mae’n parhau i gael triniaeth.

Mae’r Heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod U090300.