Mae Gwasanaeth Tân y Gogledd wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynlluniau i arbed arian, gan gynnal ymgynghoriad am dorri swyddi a chael gwared ag un injan dân yn Wrecsam.

Yn ôl yr Awdurdod, mae’n “anochel” y bydd rhai yn colli eu swyddi, gan fod cyflogau’r gwasanaeth yn 70% o’i gyllid i gyd.

Cafodd cyfarfod ei gynnal heddiw, gyda phryderon mai swyddi 24 o ddiffoddwyr tân fydd yn y fantol, ond mae’r gwasanaeth yn dweud bod hyn yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad.

‘Siomedig iawn’

Mae undeb FBU Cymru, oedd yn rhan o’r cyfarfod, wedi dweud bod y penderfyniad yn un “siomedig iawn”, ac mae wedi codi pryderon dros effaith hyn ar y gwasanaeth yn y Gogledd.

Yn ôl Shane Price, ysgrifennydd yr undeb yn y Gogledd, gallai cael gwared â’r injan “greu trafferth mawr” i’r frigâd os bydd llifogydd mawr neu dân mawr yn yr ardal.

“Gan mai Wrecsam yw’r dref fwyaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae’n mynd i roi pwysau mawr (i’r Gwasanaeth) yn enwedig efo’r carchar newydd,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd fod ‘na llawer o broblemau wedi bod ar ystâd ddiwydiannol Parc Caia dros y misoedd diwethaf, gyda cheir yn cael eu rhoi ar dân yn fwriadol.

“Dwi’n derbyn bod y gwasanaeth mewn sefyllfa anodd ond ‘baswn i’n hoffi gobeithio trwy drafod bod ‘na ffyrdd eraill o arbed arian,” meddai, wrth siarad am y posibilwydd o staff yn colli swyddi.

Mae’r awdurdod yn gobeithio arbed £1 miliwn erbyn 2019-2020

Ond er gwaethaf y pryderon, mae swyddogion y gwasanaeth yn dweud nad yw bellach yn bosib rhewi ei gyllideb oherwydd chwyddiant cyflogau a phrisiau a chostau pensiwn sy’n codi.

Bydd Gweithgor Cynllun Gwella yr Awdurdod yn ymgynghori ar ddiddymu un injan dân o Wrecsam erbyn diwedd y ddegawd.

Mae’r gyllideb dros dro wedi cael ei llunio hefyd, sy’n seiliedig ar strategaeth pedair blynedd ac sy’n cynnwys rhewi’r gyllideb am y ddwy flynedd nesaf a thorri nôl ar wasanaethau a swyddi.

Penderfyniad “ddim ar chwarae bach”

“Nid yw penderfyniad aelodau’r Awdurdod i leihau gwasanaethau yn y dyfodol wedi cael ei gymryd ar chwarae bach, ond yn hytrach ar y sail mai hwn yw’r opsiwn lleiaf niweidiol,” meddai’r Cynghorydd Meirick Davies, a gafodd ei ail-ethol fel Cadeirydd yr Awdurdod heddiw.

“Fe wnaethom gydnabod y byddai toriadau i’r gwasanaeth ar ben y rhai sydd wedi cael eu gwneud yn cynnwys rhyw faint o risg i’r cyhoedd a’r Awdurdod.

“Ond nid oeddwn yn gallu anwybyddu’r problemau ariannol difrifol y bydd yr Awdurdod yn eu hwynebu dros y pum mlynedd nesaf ac roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i ni gymharu’r risg gyda’r adnoddau sydd ar gael.

“Yn anochel, bydd y toriadau yn gorfod dod o dorri swyddi, gan fod cyflogau yn cymryd 70% o gyllideb refeniw’r Awdurdod.”

Mae’r gwasanaeth yn dweud ei fod eisoes wedi ceisio arbed arian drwy ailstrwythuro ddwywaith ond nad oedd modd gwneud unrhyw fwy o arbedion drwy wneud hyn eto.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn ystod mis Hydref a Thachwedd.