Ffoaduriaid o Syria Llun: PA
Mae elusen Oxfam Cymru wedi lansio menter newydd yn galw ar bobol Cymru i groesawu ffoaduriaid drwy ysgrifennu llythyr o groeso atyn nhw.
A hithau’n Wythnos Ffoaduriaid, mae Oxfam Cymru am sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth ail-gartrefu ffoaduriaid.
“Mae ysgrifennu llythyr o groeso yn weithred syml ond pwerus,” meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru.
Esboniodd fod modd anfon y llythyron drwy siopau Oxfam lleol, neu drwy wefan yr elusen.
“Sut bynnag yr ewch ati i ysgrifennu eich neges, gallwch fod yn sicr y bydd eich geiriau o groeso yn cael effaith ar deuluoedd o ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.”
Albwm i gofio Jo Cox
Yn ogystal, fe fydd elusen Oxfam yn cydweithio â threfnwyr gŵyl Glastonbury y penwythnos hwn i lunio albwm o gerddoriaeth byw i godi arian at y ffoaduriaid.
Fe fydd yr albwm hefyd yn deyrnged i’r Aelod Seneddol, Jo Cox, a gafodd ei lladd yn ei hetholaeth yng ngorllewin Swydd Efrog yr wythnos diwethaf.
Roedd Jo Cox, 41 oed, yn weithgar dros helpu’r ffoaduriaid ac, “o ystyried gwaith diflino Jo, roedd hi’n briodol ein bod yn cyflwyno’r albwm hwn er cof amdani,” meddai Prif Weithredwr Oxfam, Mark Goldring.
Mae’r artistiaid fydd yn cyfrannu at yr albwm yn cynnwys Coldplay, Muse, Wolf Alice, Jamie Lawson, Years & Years a llawer mwy, ac mae disgwyl iddi gael ei rhyddhau ar Orffennaf 11.